Beth oedd rhan y Cymro Robert Everett yn yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth?

  • Cyhoeddwyd
Rev RobertFfynhonnell y llun, Bangor University
Disgrifiad o’r llun,

Ymfudodd y Parch Robert Everett o Sir y Fflint i'r Unol Daleithiau yn 1823 a dod yn arweinydd y mudiad gwrth-gaethwasiaeth Cymraeg yno

Mae pregethwr o Gymru fu'n brwydro yn erbyn caethwasiaeth yn America yn y 19eg Ganrif wedi cael ei anrhydeddu mewn oriel anfarwolion yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd y Parchedig Robert Everett o Sir y Fflint ei ychwanegu i'r National Abolitionist Hall of Fame and Museum mewn seremoni ar benwythnos 21-23 Hydref.

Yn wreiddiol o Lanasa cafodd Robert Everett ei eni yn 1791 a'i urddo'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Ninbych yn 1823, cyn ymfudo i America yn yr un flwyddyn i ofalu am eglwys Gymraeg yn nhalaith Efrog Newydd.

Roedd yn un o sylfaenwyr y New York State Anti-Slavery Society, ac am flynyddoedd bu'n defnyddio'r wasg Gymraeg yn America i ddadlau dros achos y caethweision a pherswadio ei gyd-Gymry yn America o'r angen i ddiddymu caethwasiaeth.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o un o gapeli Robert Everett, Capel Ucha yn mhentref Steuben, Oneida County, Efrog Newydd

Yn 1838 penodwyd y Parch Robert Everett yn weinidog ar ddau gapel Cymraeg, sef Capel Ucha a Chapel Penmynydd ym mhentrefi Steuben a Remsen ger Utica, sir Oneida, talaith Efrog Newydd.

Helpu caethweision

Yn 1839 dechreuodd yr achos llys nodedig yn dilyn gwrthryfel y caethweision ar long yr Amistad, a bu Robert yn casglu arian ar eu cyfer ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Erbyn yr 1850au roedd cyhoeddiadau Everett yn denu sylw pobl flaenllaw yn yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth, ac roedd yn cyfieithu ysgrifau y mudiad gwrth-gaethwasiaeth i'r Gymraeg.

Dangosodd ei bapurau hefyd ei fod wedi bod yn cyfieithu Uncle Tom's Cabin i'r Gymraeg, y nofel enwog oedd mor ddylanwadol yn yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth.

Ef oedd golygydd Y Cenhadwr Americanaidd ac o'r rhifyn cyntaf defnyddiodd y cylchgrawn misol i gyhoeddi deunydd gwrth-gaethwasiaeth a denu Cymry America at yr achos.

Roedd yn rhan o rwydwaith gudd oedd yn helpu caethweision oedd yn ceisio dianc a threfnodd gyfarfod yn ei gapel er mwyn i'w gynulleidfa glywed gan ddyn a oedd newydd ddianc o gaethiwed yn y de.

40 mlynedd o ymgyrchu

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor

Dros gyfnod o 40 mlynedd, felly, bu Robert Everett yn ymgyrchu er mwyn cael gwared ar gaethwasiaeth.

Ond bu'n rhaid i America ddioddef rhyfel cartref gwaedlyd cyn gweld pob caethwas yn ennill ei ryddid yn 1865.

Ymchwil gan yr Athro Jerry Hunter o Brifysgol Bangor, Americanwr sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru, a dynnodd sylw at y Parch Robert Everett.

Meddai'r Athro Hunter, oedd yn annerch y cyfarfod yn America drwy fideo: "Trwy ddarllen deunydd Cymraeg a gyhoeddwyd yng ngogledd America yn ystod y cyfnod, daeth yn amlwg fod Robert Everett yn un o arweinwyr moesol, crefyddol a deallusol y gymuned Gymreig-Americanaidd.

"Mae'n debyg iddo wneud mwy na neb arall i radicaleiddio Americanwyr Cymraeg eu hiaith a'u dwyn i mewn i'r mudiad gwrth-gaethwasiaeth.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o ddisgynyddion Robert ac Elizabeth Everett yn dal i fyw yn nhalaith Efrog Newydd ac yn casglu gwybodaeth am hanes eu teulu

"Ar y pryd, roedd gan America lawer o gymunedau Cymraeg bywiog, a oedd yn cynnal diwydiant cyhoeddi Cymraeg gan gynnwys amryw o bapurau newydd a chyfnodolion. Yn y gymdeithas honno, roedd y Parch Everett yn ymgyrchydd diflino, gan hyd yn oed gyhoeddi 'ymgyrch 10 pwynt' i gapeli a grwpiau eraill ei dilyn.

"Diddymu caethwasiaeth oedd ei brif nod, er ei fod hefyd yn cefnogi hawliau merched, heddychiaeth a dirwest. Bu'n rhaid iddo weithio trwy gyfyng-gyngor moesol mewnol fel heddychwr, a phenderfynodd yn y diwedd fod diddymu caethwasiaeth yn bwysicach na heddwch, ac felly y daeth i gefnogi Rhyfel Cartref 1861-65, sef gwrthdaro a welai fel crwsâd yn erbyn caethwasiaeth."

O ddysgu am yr arwr lleol hwn, galwodd nifer o gymdeithasau Cymreig Gogledd America ar iddo gael ei ychwanegu at yr oriel genedlaethol o anfarwolion y rhai fu'n ymladd caethwasiaeth.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o gartref Robert Everett yn Steuben, Oneida County

Dywedodd Ted Engle, sy'n Americanwr o dras Cymreig ac yn aelod o'r grŵp a wnaeth yr enwebiad: "Fe wnes i fynychu'r North American Festival of Wales yn 2017 a chael fy nghyfareddu gan gyflwyniad bywiog iawn yr Athro Jerry Hunter am Dr Everett.

"Roeddwn i a'm brawd, sy'n hanesydd amatur a chanddo ddiddordeb yn y rhyfel cartref, mewn un ffordd, yn teimlo embaras nad oeddem yn gwybod mewn gwirionedd pa mor ddylanwadol oedd Everett i'r Rhyfel Cartref ac i'r mudiad dros ddiddymu caethwasiaeth, er ein bod yn frodorion o Oneida County.

"Mae llawer o hyn wedi cael ei anghofio hyd yn oed yn ein hardal ni, sydd â gwreiddiau dwfn Cymreig, a fedrem ni ddim credu nad oeddem ni'n gwybod am hyn."

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Yr American National Abolition Hall of Fame Museum, yn Peterboro, talaith Efrog Newydd, sy'n anrhydeddu diddymwyr, eu gwaith i ddod â chaethwasiaeth i ben ac etifeddiaeth y frwydr honno

Mae'r amgueddfa yn Peterboro, Efrog Newydd, yn anrhydeddu'r bobl a ymgyrchodd i ddiddymu caethwasiaeth gan ychwanegu enwau at oriel yr anfarwolion bob dwy flynedd.

Yr Athro Hunter yw awdur I Ddeffro Ysbryd y Wlad sef hanes yr ymgyrchu a wnaeth Robert Everett yn erbyn caethwasiaeth yn America.

Cafodd y project i ychwanegu enw'r Parchedig Everett at yr oriel ei noddi gan y Saint David's Society of Utica a'r Remsen Steuben Historical Society, ac aethpwyd ati i gasglu dogfennau i gefnogi'r cais.

Roedd rhai o ddisgynyddion Robert Everett yn bresennol yn y seremoni, dolen allanol ac mae'r teulu wrthi'n casglu hanes y teulu; yn ddiweddar cafodd safle eglwys y Parchedig Everett ei chofrestru'n safle hanesyddol gan Dalaith Efrog Newydd.

Mae'r gymdeithas hanes leol hefyd wedi llunio arddangosfa am y Parchedig Everett yn eu pencadlys yn Utica. Eu gobaith ydy datblygu mwy o ddiddordeb yng Nghymru ymhlith pobl canol Efrog Newydd.

Pynciau cysylltiedig