Hiliaeth yn America: 'Angen protestiadau i wthio newid'
- Cyhoeddwyd
Ar 20 Ebrill cafwyd y cyn-heddwas Derek Chauvin yn euog o lofruddio George Floyd ar stryd ym Minneapolis.
Dyma rai o argraffiadau'r newyddiadurwraig Maxine Hughes, yn wreiddiol o Gonwy ond bellach yn byw yn Washington DC, sydd wedi dilyn yr achos mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru, Ddim yn Ddu a Gwyn:
Dathlu oedd yr ymateb tu allan i'r llys ym Minneapolis. Cafwyd Derek Chauvin yn euog o dri chyhuddiad yn ymwneud â llofruddiaeth George Floyd. Roedd y canlyniad yn drobwynt i America.
Fe ddigwyddodd yr achos cyfan yn ystod pandemig y coronafeirws, ac mae Covid-19 wedi ein hatgoffa eto o'r anghydraddoldeb sydd yn America. Mae nifer y bobl ddu sydd wedi marw o Covid-19 yn UDA yn llawer uwch na nifer y bobl wyn, ac mae pobl ddu hefyd wedi cael eu effeithio'n fwy gan y cwymp economaidd sydd wedi dilyn y pandemig.
Rwyf wedi gweithio fel newyddiadurwraig yn America ers sawl blwyddyn, ac wedi byw yma am gyfnodau ers roeddwn yn 18 oed. Mae yna wastad stori sy'n trafod hiliaeth yn y penawdau.
Mae'r Unol Daleithiau, fel cymaint o wledydd, yn gymdeithas o anghydraddoldeb. Ond mae yna ddwyster nodedig i'r sefyllfa yn y wlad hon, yn enwedig yng nghyd-destun hanes ac etifeddiaeth caethwasiaeth.
Mae canrifoedd o bolisïau hiliol wedi esgeuluso Americanwyr du. Mae'r systemau addysg ac iechyd wedi eu gadael nhw i lawr, ac annhegwch economaidd yn golygu bod miliynau heb gyflog byw.
Rwyf wedi gohebu ar nifer fawr o brotestiadau ers i George Floyd farw a siarad gyda channoedd o bobl am eu safbwyntiau. Ond â minnau yn newyddiadurwr gwyn, dwi'n gwybod mai edrych o'r tu allan ydw i. Felly ar ôl blwyddyn o drafod y stori, penderfynais fynd i Minneapolis i weld y sefyllfa ar y stryd a siarad gyda phobl sydd wedi byw yng nghysgod un o'r straeon y soniwyd fwyaf amdani yn hanes cyfoes America.
'Symud ymlaen?'
Dwi'n cyfarfod Gerallt Jones, sy'n wreiddiol o Fethel, ar gornel 38th St a Chicago Avenue, tu allan i siop Cup Foods. Dyma'r fan ble bu'r bobl hynny a welodd Derek Chauvin yn lladd George Floyd yn sefyll.
Mae Gerallt wedi bod ym Minneapolis ers chwe mlynedd, ac mae wedi priodi merch o'r ardal a chael swydd yn y dinas.
"Mae'n swreal sefyll yma i fod yn onest. Mae'n anodd deall be' mae pobl ddu yn teimlo a be' maen nhw wedi profi dros y flwyddyn ddiwethaf, a sut mae popeth wedi effeithio nhw. Roedd y sefyllfa gyda George Floyd i fod yn routine stop, ond wedi troi allan gyda rhywun yn colli eu bywyd," meddai Gerallt.
"Dwi'n meddwl mai'r peth mwyaf mae pawb eisiau yw sbïo ymlaen, edrych ar beth sy'n digwydd yn America a'r byd, a gweld sut i symud ymlaen."
Ond mae symud ymlaen yn anodd mewn gwlad sydd wedi ei hollti. Fe wnaeth cyfnod Donald Trump wahanu America.
Mae protestiadau'n parhau, ac er bod achos Derek Chauvin wedi gorffen mae pobl dal i farw wrth law yr heddlu. Wrth i achos Chauvin fynd rhagddo yn y llys, cafodd gŵr du arall ei ladd gan heddlu Minneapolis. Ar 11 Ebrill, cafodd Daunte Wright, 20 oed, ei saethu'n farw wedi iddo gael ei stopio gan yr heddlu tra'n gyrru.
Ac 20 munud yn unig cyn i Chauvin ei gael yn euog, cafodd merch ddu un ar bymtheg oed, Ma'khia Bryant, ei saethu'n farw gan heddlu yn Ohio. Roedd y swyddog yn meddwl ei bod yn defnyddio taser yn hytrach na'i gwn.
Da neu ddrwg?
Dyma'r straeon mae pobl America yn eu clywed drosodd a throsodd. I Jason Edwards, Cymro o Ynys Môn sy'n byw yn Pittsburgh, mae digwyddiadau'r flwyddyn ddiwethaf wedi gwneud iddo feddwl mwy am sut mae'n siarad am yr heddlu gyda'i blant wrth iddynt dyfu fyny fel pobl o hil gymysg yn America.
"Dwi'n cofio un diwrnod fe ofynnodd fy merch dair oed, 'ydy'r heddlu yn dda neu yn ddrwg?' Ac o'n i'n rili styc yn y foment yna, rhwng carreg a lle caled. Dwi ddim eisiau fy merch boeni pan mae hi'n gweld heddlu, ond hefyd, mae'n rhaid iddi hi wybod dydi o ddim i gyd yn sunshine and roses."
Mae Jason yn dweud bod yna 'life moment' i bobl ddu yn America wrth orfod siarad gyda'u plant am sut i ymddwyn o amgylch yr heddlu.
"Mae'n reit scary bod fi'n gorfod meddwl, oes rhaid i fi cael y sgwrs 'na gyda fy merch, i ddweud wrthi hi i beidio ymladd 'nôl, gwna siŵr bod ti'n barchus ac yn y blaen."
Effaith BLM
Yn ôl ym Minneapolis, mae'n anodd osgoi'r hyn sydd wedi digwydd yma. Ym mhob ffenest bron, mae 'na bosteri yn sôn am Black Lives Matter neu George Floyd. Mae'n teimlo fel mai'r mudiad BLM yw'r glud sy'n dal y ddinas gyfan at ei gilydd.
Mae'r mudiad wedi tyfu'n gyflym. Daeth BLM yn symbol byd-eang o gri am newid, ac mae'r protestiadau wedi bod yn effeithiol. Mae cerfluniau cydffederal wedi cael eu tynnu i lawr mewn 13 talaith. Mae ugeiniau o ddeddfau wedi'u cyflwyno i newid sut mae'r heddlu yn ymddwyn, a swyddogion sydd wedi gwneud datganiadau hiliol wedi colli eu swyddi.
Ond mae BLM hefyd wedi datblygu i fod yn fater dadleuol i rai, gyda rhai carfannau gwleidyddol yn lladd ar y protestio.
Mae'r golygydd blog Melanie Carmen Owen, sy'n byw yn Aberystwyth, yn dweud bod materion hiliol yn llawer mwy cymhleth na BLM, a'r drafodaeth yn un anodd.
"Mae'n hawdd dweud bod 'na un grŵp sydd yn erbyn hiliaeth, a dydy hwn ddim yn wir," meddai Melanie. "Wnaeth y mudiad BLM ddim dechrau gyda George Floyd. Ond rŵan mae'r cyfryngau yn cymryd sylw."
Dydy Melanie ddim yn teimlo bod y cyfryngau i gyd wedi gohebu ar fudiad BLM mewn modd cyfrifol.
"Dydy'r cyfryngau ddim wedi bod yn gofyn digon o gwestiynau - mae 'na gymaint o gamddealltwriaeth. 'Dan ni ddim yn gallu cynnwys bob person du gyda'r mudiad BLM. Dydy bod yn erbyn hiliaeth ddim yn golygu o hyd bod chi'n cefnogi BLM.
"Mae BLM yn fudiad gwleidyddol, dydy bod yn erbyn hiliaeth ddim yn wleidyddol."
Byddai llawer yn America yn cytuno â safbwynt Melanie. Mae'r mudiad BLM wedi hollti cymdeithas yma.
Wnaeth Donald Trump ddim dal yn ôl wrth gondemnio BLM. Mae yna gefnogwyr Trump sy'n galw protestwyr BLM yn sosialaidd a Marcsaidd, a'u cyhuddo o fod eisiau newid America.
Ac wrth i rai protestiadau droi'n dreisgar a chreu difrod, defnyddiodd ymgyrch Trump y delweddau hyn mewn hysbysebion gwleidyddol gan awgrymu y dylai pleidleiswyr ddewis unai tegwch hiliol neu gyfraith a threfn.
Protestiadau yn 'hanfodol'
Mae Geordan Burress yn Americanwr Affricanaidd sydd wedi dysgu Cymraeg. Mae hi'n dweud bod yna gamddealltwriaeth am fudiad BLM ymysg yr adain dde:
"Dydy'r geiriau 'Black Lives Matter' ddim yn golygu bod cefnogwyr yn meddwl bod bywydau du yn meddwl mwy na bywydau arall. 'Dan ni eisiau cydraddoldeb. Mae 'na ormod o gamddealltwriaeth o gwmpas BLM a be' mae BLM yn sefyll am."
Mae hi'n teimlo bod y protestiadau yn gwbl angenrheidiol: "Does 'na ddim digon o drafod, a mae'r newidiadau yn dod yn araf iawn. Felly mae angen protestiadau i wthio newid yma."
Ers llofruddiaeth George Floyd, mae mwy na 30 o daleithiau wedi pasio deddfau i newid dull ymddygiad yr heddlu.
Mae Jason Edwards yn cytuno bod y protestiadau ar draws y byd wedi bod yn hanfodol. "Mae pobl yn anghofio faint o brotestiadau oedd 'na o gwmpas adeg Martin Luther King. Dydy pobl ddim wedi gwrando ar bobl du yn America, felly mae angen bod yn aggressive gyda gweithredu yma.
"Os dydy pobl ddim eisiau gweld trais a pethau'n cael eu llosgi, wel mae'n rhaid siarad a mae'n rhaid gwrando ar bobl."
Ac i Melanie Carmen Owen, mae'n bwysig fod y protestio yn cael effaith bellgyrhaeddol.
"Mae 'na lawer o bobl sy'n feirniadol am BLM, ond pe bai nhw heb fynd i'r strydoedd, pe bai nhw heb brotestio, pe bai nhw heb ddal pobl fel yr heddlu i fyny, fyswn ni ddim yn cael y trafodaethau yma, a mae angen siarad - yma yng Nghymru hefyd, mae angen siarad."
Llygedyn o obaith
Ym Minneapolis mae llais George Floyd yn atseinio trwy'r strydoedd. Ers canrifoedd, mae hiliaeth wedi ei ystyried yn broblem na ellir ei datrys yn America. Ond wrth sefyll yn yr union fan ble bu farw Floyd a gweld pobl yn dod i edrych ar y posteri gyda'r geiriau sy'n galw am gydraddoldeb, mae yna deimlad bod llygedyn o obaith yma.
"Mae'r digwyddiadau ym Minneapolis wedi dod â lot o bobl at ei gilydd - du a gwyn," meddai Gerallt Jones. "Mae yna lawer iawn o hollt dal i fod, a lot o bobl sydd yn erbyn pobl sydd yn meddwl yn wahanol iddyn nhw.
"Ond yma, mae 'na le i bobl ddod a chofio beth sydd wedi digwydd, ac edrych i'r dyfodol a teimlo'n obeithiol. Dwi'n gobeithio bydd y stryd yma yn gallu bod yn gofeb barhaol."
Hefyd o ddiddordeb: