Merch hefyd wedi'i hanafu ym mharc Oakwood

  • Cyhoeddwyd
treetopsFfynhonnell y llun, Lachlan/Coasterpedia
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd plentyn yn ogystal ag oedolyn driniaeth ysbyty wedi damwain ar reid Treetops

Cafodd merch hefyd ei hanafu mewn damwain ym mharc antur Oakwood ble cafodd dyn anafiadau ddydd Sul.

Dywed yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) eu bod yn credu mai merch y dyn gafodd ei anafu oedd hi.

Mân anafiadau gafodd y plentyn, meddai'r awdurdod, a dydyn nhw ddim yn credu fod anafiadau'r dyn yn peryglu ei fywyd.

Mae'r parc, sydd ar gau tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal, wedi dweud eu bod wedi'u "tristau'n fawr gan y digwyddiad".

Parhau mae'r ymchwiliad i ddigwyddiad ar reid Treetops yn y parc.

Yn ôl adroddiadau, fe syrthiodd dyn o'r reid cyn cael ei gludo mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty. Cafodd y parc ei gau yn ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Rhodri Mason
Disgrifiad o’r llun,

Cerbydau brys ym Mharc Oakwood yn dilyn y digwyddiad ddydd Sul

Dywedodd un fenyw, a oedd yn y parc ar y pryd, fod pobl wedi'u "dychryn" wedi'r ddamwain.

Ychwanegodd Harriet Lloyd o Gaerfyrddin bod ei gŵr, a oedd ar yr un reid â'r dyn gafodd ei anafu, wedi "clywed pobl yn sgrechian tua'r cefn".

Ail-agor ar gyfer hanner tymor

Mae'r parc yn dal ynghau tra bod ymchwiliad, sy'n cael ei arwain gan awdurdod yr HSE yn cael ei gynnal, ond mae'r rheolwyr yn dweud y bydd yn ail-agor ar gyfer gwyliau hanner tymor Cymru yr wythnos nesaf.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd: "Rydym wedi ein tristau'n fawr gan y digwyddiad ar ein reid Treetops ddydd Sul 23 Hydref pan gafodd un o'n hymwelwyr anaf.

"Rydym yn cydweithredu'n llawn ag ymchwiliad HSE i'r digwyddiad ac rydym yn methu gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.

"Mae iechyd, diogelwch a lles ein holl ymwelwyr a staff o'r pwys mwyaf i ni.

"Yn dilyn arweiniad gan yr HSE, bydd Parc Antur Oakwood yn ailagor ar gyfer gwyliau hanner tymor yng Nghymru ddydd Sadwrn 29 Hydref fel y cynlluniwyd gyda Treetops yn parhau ar gau yn ystod y cyfnod ymchwilio."

Pynciau cysylltiedig