Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Maidenhead

  • Cyhoeddwyd
Aaron HaydenFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Peniodd Aaron Hayden ei wythfed gôl o'r tymor

Roedd un gôl yn ddigon i Wrecsam wrth iddynt barhau i roi pwysau ar Notts County ar frig y tabl.

Hanner awr gymrodd hi i'r gôl hwnnw ddod gyda Aaron Hayden yn penio'i wythfed o'r tymor.

Ond er i Wrecsam greu mwy o gyfleon yn yr ail, methodd tîm Phil Parkinson â agor y bwlch ymhellach.

Daeth y cyfle gorau i Paul Mullin, ond methodd ei gic o'r smotyn wedi 83 munud.

Serch hynny, mae'r fuddugoliaeth yn golygu mai ond pwynt sy'n gwahaniaethu'r Dreigiau a Notts County ar y brig.