Cyn-berchennog Ffos Las yn yr ysbyty wedi damwain hofrennydd

  • Cyhoeddwyd
Damwain hofrennydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i goetir yn ardal Llanelidan brynhawn Mawrth

Mae dau berson wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn damwain hofrennydd yn Sir Ddinbych.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad mewn coetir yn ardal Llanelidan ger Rhuthun toc wedi 17:30 brynhawn Mawrth.

Dywedodd yr heddlu'n wreiddiol fod pedwar person wedi'u cymryd i'r ysbyty, cyn i'r gwasanaeth ambiwlans gadarnhau amser cinio ddydd Mercher mai dau oedd yn ffigwr cywir.

Un o'r ddau sydd wedi eu hanafu yw'r perchennog ceffylau rasio a chyn-berchennog trac Ffos Las, Dai Walters.

Does dim lle i gredu fod unhryw un wedi'u hanafu'n ddifrifol.

'Yn effro ac yn siarad'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyn-berchennog trac rasio ceffylau Ffos Las, Dai Walters ar yr hofrennydd

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol traciau rasio Ffos Las a Chas-gwent, Phil Bell ei fod wedi siarad gyda theulu Mr Walters ddydd Mercher.

"Fe alla i gadarnhau fod Dai yn cael sganiau pellach. Mae'n effro ac wedi siarad gyda'i deulu," meddai.

Ychwanegodd fod yr hyfforddwr Sam Thomas hefyd yn rhan o'r digwyddiad, ond ei fod yntau "adref ac yn iawn".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr hyfforddwr Sam Thomas hefyd yn rhan o'r digwyddiad ddydd Mawrth

Gwelodd y dyn busnes lleol, Huw Howatson, y digwyddiad a dywedodd ei fod yn "ofnadwy".

Roedd pump o ddynion - oedd yn rhan o griw hela - yn yr hofrennydd pan aeth i drafferthion, meddai.

"Roedd o'n ofnadwy - mi wnes i wylio fo'n digwydd ac roeddwn i'n ffilmio'r hofrennydd," meddai.

"Ro'n i'n gweld ei fod mewn trwbl, ac fe darodd yn erbyn coed ac roedd rhaid i mi symud allan o'r ffordd.

"Fe ddaeth darn o'r propeller i ffwrdd. Roedd rhaid i ni ei heglu hi achos roedd 'na lot o ddarnau'n hedfan o gwmpas i bob man. Roedd o fel ffilm.

"Fel rhywun a oedd yno hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys. Wnes i ddim ffonio 999 fy hun - roedd dyn arall wrthi'n gwneud hynny."

Anafiadau 'ddim yn peryglu bywyd'

Cadarnhaodd y gwasanaeth ambiwlans ddydd Mercher fod y ddau berson wedi cael eu cymryd i Ysbyty Glan Clwyd am driniaeth.

Dywedodd y Prif Arolygydd David Cust o Heddlu Gogledd Cymru: "Ni chredir bod yr un o'r anafiadau yn rai sy'n bygwth bywyd nac yn newid bywyd ar hyn o bryd."

Dywedodd llefarydd ar ran y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB): "Mae'r AAIB wedi cael gwybod am ddamwain ger Rhuthun, gogledd Cymru yn ymwneud â hofrennydd.

"Mae ymchwiliad wedi dechrau ac mae tîm o ymchwilwyr ar y safle."

Pynciau cysylltiedig