Corwen: Symud 6,400 o ieir wedi damwain lori ar yr A5

  • Cyhoeddwyd
Lori Maerdy

Bu'r gwasanaethau brys yn ceisio symud lori wnaeth droi drosodd ar yr A5 yn Sir Conwy wrth gludo miloedd o ieir byw.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ger Tafarn yr Afr ym mhentref Maerdy, rhwng Corwen a Cherrigydrudion, yn gynnar fore Mercher.

Bu rhan o'r ffordd brysur ar gau am oriau o 06:00 ond mae bellach wedi ailagor.

Fe lwyddodd swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd i sefydlogi'r lori cyn ei rhoi'n ôl ar ei holwynion.

Maen nhw hefyd wedi symud cratiau mawr sy'n cynnwys 6,400 o ieir, a'u gosod ar y ffordd.

Disgrifiad o’r llun,

Criwiau tân yn paratoi i godi'r lori'n ôl ar ei holwynion

Yn ôl un o ohebwyr BBC Cymru, a oedd yn yr ardal, roedd yna "arwyddion o symudiadau oddi mewn i'r cratiau".

Does dim gwybodaeth bellach hyd yn hyn ynghylch cyflwr yr ieir.

Dywed y gwasanaeth tân bod criwiau wedi atal gollyngiad bach o ddisel rhag lledu, a'u bod wedi parhau ar y safle i sicrhau nad oedd tanwydd o'r lori yn mynd i afonydd lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Bu ffordd yr A5 ar gau rhwng goleuadau traffig Y Ddwyryd a Thafarn yr Afr, Maerdy

Pynciau cysylltiedig