Pont y Borth: 'Gyr y byd ei gerbydau drosti'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gwyliwch Joe Hughes yn cynnal a chadw Pont y Borth yn 1976

Uchelgaer uwch y weilgi - gyr y byd

Ei gerbydau drosti,

Chwithau holl longau y lli

Ewch o dan ei chadwyni.

Dyna eiriau'r bardd Dewi Wyn o Eifion am Bont y Borth 'nôl yn y ddeunawfed ganrif.

Â'r bont ar gau tan 2023 bron i ddwy ganrif ers ei hagor, Cymru Fyw fu'n tyrchu archif Casgliad y Werin am beth o hanes y bont barhaol gyntaf rhwng Ynys Môn a'r tir mawr.

Un o gampweithiau Thomas Telford

Ystyrir Pont y Borth, a adeiladwyd rhwng 1819 a 1826, yn un o gampweithiau peirianneg sifil Thomas Telford. Mae'r bont ar yr A5, yn hanesyddol y prif lwybr cyflenwi a phost rhwng Dulyn a Llundain, drwy Gaergybi.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Cynllun o'r bont o 1820

Hyd nes agorwyd y bont, roedd yn rhaid i deithwyr, nwyddau, ceffylau a choetsys gael eu cludo ar gychod ar draws cerrynt hynod beryglus y Fenai, tra roedd gwartheg yn gorfod nofio drosodd wrth ochr y cychod gan obeithio na fyddai'r anifeiliaid gwerthfawr yn boddi ar y ffordd.

Ffynhonnell y llun, Treftadaeth Menai
Disgrifiad o’r llun,

Cwch yn croesi'r Fenai ers talwm (dim dyddiad)

Mae Pont y Borth yn 416 metr o hyd, ac yn 176 metr rhwng y ddau brif biler. Mae'r cadwyni yn dal y ffordd 30 metr uwchlaw lefel y môr fel y gallai llongau hwyliau hwylio o dan y bont.

Cyllidwyd y gwaith adeiladu gan Lywodraeth y dydd a chostiodd £120,000. Nid oedd hyn yn cynnwys y £26,394 7s 6d o iawndal a dalwyd i Miss Silence Williams, perchennog y gwasanaeth fferi ar draws y Fenai. Amcangyfrifir mai hwn oedd un o'r symiau mwyaf a dalwyd erioed i un unigolyn yn hanes Prydain.

Ers dyddiau ei hadeiladu, mae pont Telford dros y Fenai wedi denu llawer o dwristiaid a ddaeth i ryfeddu at ei mawredd.

Ffynhonnell y llun, Cagliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Llun cerdyn post o'r bont o 1860

Pan osodwyd y gadwyn gyntaf ar 20 Ebrill 1825, daeth llawer o bobl i lannau'r Fenai i wylio'r gwaith a barodd am ychydig dros ddwy awr ac a gyrhaeddodd uchafbwynt gyda dau weithiwr yn cerdded ar hyd top y gadwyn a oedd wedi'i gosod yn ei lle. Ar ôl iddi gael ei gorffen, teithiodd llawer mwy o deithwyr o dramor i weld y bont.

Yn eu plith roedd llawer o beirianwyr sifil a archwiliodd bont Telford o bob ongl, gwneud eu mesuriadau eu hunain ac edmygu ei gynllun mentrus, ond gosgeiddig.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o un o hen gadwyni Pont Menai

Cafodd y bont grog ei hailwampio yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, a symudwyd y llwybr troed i gerddwyr, a oedd gynt yn y canol, i ddwy ochr y bont.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Cerddwyr ar y bont yn 1900

Ffynhonnell y llun, Treftadaeth Menai
Disgrifiad o’r llun,

Hen lun o gerddwyr ar y bont (dim dyddiad)

Gyda'r trafferthion a'r traffig mae cau Pont y Borth yn ei achosi ar hyn o bryd, mae'n hawdd anghofio pa mor flaengar fu Thomas Telford yn ei ddydd.

Wrth gofio geiriau Dewi Wyn o Eifion, gallwn obeithio y 'Gyr y byd ei gerbydau drosti' yn fuan yn y flwyddyn newydd.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig