Dathlu Diwali gyda theulu yn Nhrelluest, Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Jasmin Hirani, Vanisha Hirani, Diya Hirani
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Jasmin Hirani, Diya Hirani, Vanisha Hirani

Gŵyl Hindŵaidd sy'n cynrychioli buddugoliaeth goleuni dros dywyllwch, neu'r da dros y drwg, ydi Diwali, ac mae hefyd yn cael ei dathlu gan ddilynwyr Bwdha, Hare Krishna, Siciaeth, a Jaim.

Mae'n un o uchafbwyntiau calendr blynyddol y teulu Hirani yn Nhrelluest, Caerdydd, ac yn gyfle prin i bedwar cenhedlaeth o'r teulu ddod ynghyd.

Mae'n ŵyl sy'n para pum diwrnod, gan ddechrau ddydd Sadwrn. Aeth Cymru Fyw i ddilyn Jasmin, Vanisha, a Diya Hirani a'u teulu drwy fore'r prif ddiwrnod o ddathlu ar ddydd Mercher, 26 Hydref.

Disgrifiad,

Y teulu Hirani o Drelluest yn dathlu Diwali

Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o'r teulu yn cyrraedd tŷ eu Nain yn Nhrelluest, Caerdydd

Disgrifiad o’r llun,

Vanisha Hirani ar y chwith a Jasmin Hirani un o'r pen ar y dde

Am 8.y.b mae'r teulu'n cwrdd yn un o'u tai ac yn rhannu anrhegion cyn mynd i'r deml i weddïo.

"Rydan ni wedi bod yn gweld dau ochr o'r teulu - ochr Dad ac ochr Mam," meddai Vanisha Hirani, sy'n ddisgybl yn Ysgol Glantaf.

"Mae rhanfwyaf o deulu ochr Mam yn India felly fyddwn ni yn galw nhw ag yn dymuno nhw Diwali hapus a gwneud yr un peth yn fan hyn gyda ein cyfnitherod, antis ac uncles.

"Felly yn gyntaf rydan ni'n mynd i deulu ochr Dad ac rydym yn agor anrhegion yna wedyn ni'n cerdded lawr i'r tŷ ochr Mam."

Disgrifiad o’r llun,

Agor yr anrhegion

Disgrifiad o’r llun,

Rama Hirani, hen-fodryb y merched, yn y canol gyda'i mhab Khushal i'r chwith

A'r teulu yn un mawr dyma'r unig gyfle mae pawb yn cael dod at ei gilydd gyda nifer yn byw mewn lleoliadau gwahanol.

"Mae'n fwy na'r ochr grefyddol o bethau - mae'n adeg deuluol bwysig iawn," meddai Rama Hirani, hen fodryb y merched. "Mae 'na bedwar cenhedlaeth yma. Fy rhieni i, ni, fy mhlant i, ac yna fy wyrion.

"Dwi'n meddwl mai fy Mam ydi'r gliw yma. Yn cadw ni gyd at ein gilydd."

Disgrifiad o’r llun,

Hen Nain y merched sy'n perthyn i'r genhedlaeth gyntaf y teulu Hirani i gyrraedd Caerdydd

Yn wreiddiol y traddodiad oedd rhoi arian, meddai Rama, ac er mai dyma'r traddodiad yn India yn dal erbyn hyn y duedd yn y Gorllwewin ydi rhoi anrhegion.

"Mae wedi newid llawer ers pan oeddwn yn ifanc. Doedd dim byd fel yn digwydd oherwydd doedd ganddo ni ddim teml i edrych ac ymgynnull ynddi. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod be oedd Diwali."

Agorwyd teml y Shree Swaminarayan yn 1982 ac mae'n dathlu ei benblwydd yn 40 oed eleni. Hwn ydi prif gartref a chanolbwynt y gymuned Hindŵaidd yn y ddinas ac mae Rama wedi gweld tŵf aruthrol y ei chymuned o'i herwydd.

Am 10.y.b mae'r merched yn gadael tŷ eu hen Nain cyn gwneud eu ffordd i'r Shree Swamanirayan sydd wedi ei leoli ddim ond dafliad carreg i ffwrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Tu fewn i'r Shree Swaminarayan

Meddai Rama, wnaeth gyrraedd Caerdydd yn 8 oed cyn symud i Affrica am gyfnod: "Gyda'r Deml mi ddaeth yna lawer fwy o strwythur a llawer fwy o grefydd mewn i'n bywydau wedyn mi es i i Kenya. Dyna le gafodd fy mab Khushal ei eni… wedyn pan nes i ddod yn ôl roedden ni'n dal yn deulu bach.

"Mae pawb yn dweud fod mwy o bethau yn digwydd yn fan hyn nag yn India. Yn India maen nhw'n mynd i'r deml yn y bore a dyna hi.

"Mae eu teuluoedd yn byw agosach yn India ac mae pethau wedi cael eu Gorllewino yn fan hyn. Yn fan hyn rydyn ni yn gwybod mai dyma'r unig adeg lle rydan ni yn mynd i weld pawb."

Disgrifiad o’r llun,

Y Shree Swminarayan

Os gerddwch o dan y bont Brains rhwng Glan yr Afon a thrwodd i Drelluest mae'n amhosib methu adeilad hardd y Shree Swaminarayan a'i phileri gwyn trawiadol.

Ar y dechrau, pan roedd niferoedd y gymuned Hindŵaidd yng Nghaerdydd yn fychain roedd rhaid pawb yn arfer gweddïo yn eu tai, esbonia Khushal Hirani, 40, mab Rama ac ewythr y merched.

"Mudodd ein cyndeidiau o Kenya, India, ac Uganda a setlo ym Mhrydain yn wreiddiol. Doedd llawer o bobl ddim yn gwybod am Gymru ond roedd gennym ni rhai aelodau o'r teulu wnaeth fudo yma. Unwaith wnaethon nhw ddod yma roedden y mwyafrif ohonyn nhw yn llafurwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Y dynion yn gweddio ar ochr dde y deml

Disgrifiad o’r llun,

Y menywod ar yr ochr chwith

"Be ddigwyddodd oedd mi dyfodd y gymuned ac oherwydd hynny mi ddaeth pen ein cymuned o India draw a gofyn 'pam na wnawn ni adeiladu teml yma?

"Roedd pobl yn cael addysg well ac yna yn cael gwaith gwell felly roedd angen teml mwy arnom ni wrth i'r gymuned dyfu. Mi dyfodd y gymuned ac mi dyfodd y deml a rŵan mae ganddon ni boblogaeth fawr yma. Mae pobl yn dal i fudo yma i Gymru."

Wedi'r gweddïo mae pawb yn mynd yn ôl i'w tai am seibiant cyn ail-ymgynnull am 4:30.y.h i ddawnsio yn y deml. Yna mae'r tân gwyllt yn dechrau am 8.y.h.

Meddai Vanisha Hirani: "Mae Diwali yn ŵyl y golau ac i fi mae teulu fi yn goleuo bywydau ni a pan dydi pawb ddim yn dda ac mae pobl yn drist mae hwn yn ŵyl dda i sylweddoli bod 'na llawer o olau a bod 'na le gwell i bobl."

I Diya, y fengaf o'r tair, ei hoff bethau am Diwali "yw'r tân gwyllt, agor yr anrhegion a ni'n gallu treulio amser gydag ein teulu. Beth mae Diwali yn golygu i fi yw cael treulio amser gyda ein teulu a gweld nhw i gyd."

Pynciau cysylltiedig