Cwpan Rygbi'r Byd y Merched: Seland Newydd 55-3 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Merched Cymru allan o Gwpan y Byd ar ôl cael eu trechu'n gyfforddus gan Seland Newydd yn rownd yr wyth olaf.
Roedd y tîm cartref eisoes 26-3 ar y blaen ar yr egwyl yn Whangārei, diolch i geisiau gan Portia Woodman, Ruby Tui, Sarah Hirini ac Amy Rule.
Er i Gymru gystadlu'n dda am rannau sylweddol o'r hanner cyntaf, dim ond cic gosb gynnar Keira Bevan oedd ganddyn nhw i'w ddangos am eu hymdrechion.
Ac roedd ymosod chwim olwyr Seland Newydd yn ormod o her i amddiffyn y crysau cochion, wrth i Woodman sgorio ei hail gais o'r gêm - gan dorri'r record am y nifer fwyaf erioed o geisiau yn y gystadleuaeth, gydag 20.
Parhau i ddod ddaeth i ceisiau i'r Crysau Duon, gyda Luka Connor yn tirio ddwywaith ac Alana Bremner hefyd yn croesi'r gwyngalch.
Aeth yr olaf o'r naw cais i'r maswr Ruahei Demant, i ychwanegu at ei phum trosiad yn gynharach yn yr ornest, wrth i Seland Newydd selio buddugoliaeth swmpus.
Mae'n golygu bod ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd ar ben - ond fe allen nhw fod yn falch o fod wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf, wrth iddyn nhw gystadlu yn y twrnament am y tro cyntaf ers i'r chwaraewyr gael cytundebau proffesiynol.
Fe sicrhaon nhw eu lle yn y rownd honno ar ôl gorffen fel un o'r timau gorau yn y trydydd safle, yn dilyn buddugoliaeth o 18-15 dros Yr Alban a cholled afgos o 13-7 yn erbyn Awstralia.
Ond dyma oedd eu hail golled yn erbyn Seland Newydd yn y gystadleuaeth, ar ôl cael eu curo o 12-56 yn y gêm grŵp.
"Mae'r bwlch yn amlwg yn fawr, dyw'r sgorfwrdd ddim yn dweud celwydd," meddai hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham.
"Roedd dwysedd eu chwarae nhw, y cyflymder, maen nhw'n dal i fynd am 80 munud ac mae'n rhaid i ni gyrraedd y lefel yna. Ond fi mor falch o'r merched a'u hymdrech, yn enwedig yn yr hanner cyntaf."
Ychwanegodd ei fod yn "wych" fod y tîm wedi llwyddo i gyrraedd rownd yr wyth olaf.
"Fi'n gyffrous a balch o fod yn rhan o'r grŵp yma," meddai. "Mae cymaint o ymdrech, ymroddiad ac aberth gan y chwaraewtr yma.
"Ni ond wedi bod yn broffesiynol ers mis Ionawr, ac mae'n gyffrous meddwl lle allwn ni fynd dros y blynyddoedd nesaf, falle hyd yn oed mwy o lwyddiant yng Nghwpan y Byd 2025."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2022