Y Bencampwriaeth: Bristol City 1-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Abertawe i gipio canlyniad cyfartal yn Ashton Gate wrth i Olivier Ntcham unioni'r sgôr yn yr ail hanner yn erbyn Bristol City.
Roedd y tîm cartref wedi mynd ar y blaen hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf diolch i ergyd Tommy Conway, ond yr eilydd Ntcham gafodd y gair olaf.
Cafodd Abertawe gyfle cynta'r gêm wrth i beniad Ollie Cooper fynd heibio'r postyn, cyn i Steven Benda arbed yn dda gan Antoine Semenyo ar ben arall y cae.
Bristol City gafodd y gorau o'r cyfleoedd, ac roedden nhw ar y blaen hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf wrth i bas Nahki Wells ganfod Conway, a'i ergyd isel o yn canfod cefn y rhwyd.
Er gwaethaf ymdrechion Harry Darling a Cooper, doedd yr Elyrch methu unioni'r sgôr cyn yr egwyl.
Dechreuodd yr ail hanner gyda'r tîm cartref yn gwthio am ail, a bu'n rhaid i Benda arbed yn dda unwaith eto gan Semenyo.
Ond fe ddechreuodd yr eilydd Ntcham boeni amddiffyn Bristol City a gyda chwarter awr yn weddill fe wnaeth ei hanner foli o du allan i'r cwrt cosbi ddod â'r Elyrch yn gyfartal.
Gwthiodd Abertawe am ail i geisio ennill y gêm, gydag Armstrong Oko-Flex ac Ntcham yn gweld ergydion yn cael eu rhwystro, ond bu'n rhaid i'r ddau dîm fodloni â phwynt yr un.