Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 47-7 Zebre

  • Cyhoeddwyd
Rhodri Williams ac Angus O’Brien yn dathluFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency

Sicrhaodd y Dreigiau eu trydydd buddugoliaeth o'r tymor yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig wrth roi cweir i Zebre ar Rodney Parade.

Cafwyd ciciau cosb gan Sam Davies y naill ochr i'r cais agoriadol gan Rhodri Williams, wrth i'r mewnwr wibio drwy amddiffyn yr Eidalwyr, i roi'r tîm cartref 13-0 ar y blaen.

Sgoriodd yr asgellwr David Richards gais ar ei ymddangosiad cyntaf i'r Dreigiau cyn i Davies ychwanegu'r trosiad a chic gosb arall i ymestyn eu mantais.

Caewyd y bwlch rywfaint gyda throsgais i Zebre wrth i Andrea Zambonin dirio, ond roedd hi'n 26-7 ar yr egwyl wrth i Davies lwyddo gyda chic arall.

Roedd y pwynt bonws wedi ei sicrhau gyda llai nag awr wedi'i chwarae, wrth i Steffan Hughes ac yna Angus O'Brien ychwanegu rhagor o geisiau, cyn i Richards goroni symudiad hyfryd gyda'i ail o'r noson.

Cafodd Davies noson berffaith gyda'i droed hefyd, gan gicio naw allan o naw ymgais at y pyst.

Ond fe fethon nhw â sgorio un cais ychwanegol yn y munudau olaf fyddai wedi golygu mai dyma oedd eu buddugoliaeth fwyaf erioed yn y gynghrair, gan drechu'r sgôr o 48-0 gawson nhw yn erbyn Border Reivers mewn gornest Pro12 yn 2007.

Pynciau cysylltiedig