Sir Conwy: 'Damwain erchyll yn aros i ddigwydd'
- Cyhoeddwyd

Mae trigolion wedi bod yn ymgyrchu am y newid ar ochr y ffordd ddydd Mercher
Mae 'na "ddamwain erchyll yn aros i ddigwydd" mewn pentref sy'n ffinio â ffordd brysur yr A5, yn ôl cynghorydd.
Er bod 'na gartrefi wrth ochr y lôn yng Nglasfryn, Sir Conwy, 60mya ydy'r uchafswm cyflymder.
Mae ymgyrchwyr eisiau gweld cyfyngiad o 30mya i ddiogelu pentrefwyr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n edrych eto ar derfynau cyflymder ar ôl cwblhau adolygiad o'r canllawiau perthnasol.
'Amhosib iddyn nhw stopio'
Glasfryn ydy'r unig ardal sydd â nifer sylweddol o dai ar yr A5 rhwng Caergybi a'r Amwythig ble nad oes cyfyngiadau lleol mewn grym, yn ôl y Cynghorydd Gwennol Ellis.

Mae'r cynghorydd Gwennol Ellis yn poeni am blant sy'n cael eu cludo i'r ysgol ar hyd y ffordd
Ei phryder yw y bydd damwain yn digwydd ar adeg brysur pan fo pobl yn mynd a dod o'u tai.
"Mae 'na blant yn cael eu codi ar ochr y ffordd i fynd i'r ysgol efo tacsi," meddai.
"Os ydach chi'n dod o Bentrefoelas, mae 'na dro ac maen nhw'n dod ar 60mya. Mae'n amhosib iddyn nhw stopio.
"Mae'n ofnadwy o beryg. Un o'r dyddiau 'ma mi fydd 'na gar neu lori wedi mynd i gefn bws wrth godi plant i fyny."

Mae Angharad Roberts yn fam i dri ac mae'n poeni am y ceir sy'n gyrru'n gyflym ac yn parcio ar hyd y ffordd ger ei thŷ
"Mae'r ffordd yn andros o beryg, ac mae'n ffordd andros o brysur drwy'r flwyddyn," meddai Angharad Roberts sy'n byw yn agos i'r ffordd yng nghanol y pentref.
Mae ganddi dri o blant ac mae eu cludo i'w tacsi ysgol yn bryder dyddiol.
"Mae'n ofnadwy. Mae'r tacsi'n gorfod stopio ar ochr y ffordd i'r plant ysgol fynd ar y tacsi, ac anaml iawn wnewch chi weld y traffig yn arafu o weld bod y plant yn ochr y ffordd.
"Dach chi'n gallu teimlo weithiau'r loriau'n gwibio heibio."

Mae pryderon mawr yn lleol am geir yn gyrru'n rhy gyflym trwy bentrefi fel Glasfryn
Yn ôl y cynghorydd Gwennol Ellis, mae sawl aelwyd yn gorfod parcio'u ceir ar fin yr A5 i lwytho a dadlwytho, ac mae rhai tai yn agos iawn i'r ffordd.
Dywedodd bod y broblem wedi gwaethygu yn ddiweddar gan fod arwyddion newydd sy'n nodi'r cyfyngiad cyflymder cenedlaethol o 60mya yn "annog" pobl i yrru'n gyflym.
Ochr yn ochr â'r trigolion, mae'r Cyng Ellis yn ymgyrchu dros gyflwyno cyfyngiad o 30mya i ddiogelu pentrefwyr, a byddan nhw'n ymgynnull brynhawn Mercher i godi ymwybyddiaeth o'u hymgyrch.
Mae angen i'r awdurdodau ymateb i bryderon lleol ar unwaith, meddai'r cynghorydd, yn hytrach nag ystyried newidiadau ond "pe bai damwain erchyll yn digwydd".
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn cymryd diogelwch ar y ffyrdd o ddifrif ac yn adolygu data gwrthdrawiadau'r heddlu'n rheolaidd i lywio'r angen am fesurau ychwanegol".
Ychwanegodd: "Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein canllawiau gosod terfynau cyflymder lleol ac ar ôl eu cwblhau byddwn yn cynnal adolygiad o derfynau cyflymder yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2022