Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-2 Watford

  • Cyhoeddwyd
Peniad Cedric KipreFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cedric Kipre'n sgorio gôl gyntaf y noson

Colli oedd hanes Caerdydd yn y Bencampwriaeth nos Fercher wedi i Watford eu trechu 2-1.

Fe beniodd Cedric Kipre y bêl i'r rhwyd o gic gornel gwych gan Joe Ralls i roi'r Adar Gleision ar y blaen wedi naw o funudau.

Fe ymatebodd Watford yn gadarnhaol o'r foment y gwnaethon nhw ildio'r gôl ac erbyn 38 munud o chwarae roedden nhw yn gyfartal diolch i beniad Francisco Sierralta - hefyd o gic gornel.

Wedi'r egwyl roedd yna ddigon o gyfleoedd da i'r ddau dîm sgorio - roedd angen arbediad gan y golwr yr ymwelwyr, Daniel Bachmann i atal ergydiad Jaden Philogene oedd wedi rhedeg yn wych gan fynd heibio dau chwaraewr.

Ond o fewn yr awr Watford oedd ar y blaen wedi i Ismaila Sarr gael y cyffyrddiad olaf ar gic gornel oedd yn crymanu tua'r gôl.

Roedd yna arbediad hwyr allweddol wedyn gan Bachmann i atal Sheyi Ojo rhag unioni'r sgôr.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn disgyn i'r 18fed safle tra bod Watford bellach yn yn y safleoedd ail gyfle.