Cau'r ail bont i Fôn 'am gyfnodau byr' oherwydd gwaith
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith cynnal a chadw wedi ailddechrau ar yr unig bont i Ynys Môn sy'n parhau i fod ar agor i gerbydau.
Mae'n golygu y bydd rhai adegau yn ystod y nos, wrth i'r gwaith gael ei wneud, ble bydd ffordd Pont Britannia ar gau yn llwyr.
Roedd y gwaith wedi dechrau'n gynharach eleni, ond cafodd ei oedi am gyfnod wedi cadarnhad y byddai Pont y Borth yn cau i draffig oherwydd rhesymau diogelwch.
Dywedodd Network Rail, sydd berchen Pont Britannia, y byddai'r ffordd honno'n cael ei chau ar ôl hanner nos er mwyn lleihau ar y tarfu i deithwyr.
Cyfnodau o 20 munud
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol yr ynys, Virginia Crosbie wedi dweud bod hyn yn dystiolaeth bellach o Lywodraeth Cymru'n "esgeuluso" yr angen i wella isadeiledd yn y gogledd.
Ychwanegodd y dylai blaenoriaeth gael ei roi i sicrhau bod y gwasanaethau brys yn gallu croesi'r bont ar unrhyw adeg o'r dydd a'r nos.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "deall rhwystredigaethau pobl" ond bod y gwaith ar y ddwy bont angen cael ei wneud.
Cafodd Pont Britannia ei hadeiladu'n wreiddiol ar gyfer y rheilffordd oedd yn teithio o Gaer i Gaergybi, ac yn 1980 fe ychwanegwyd y ffordd iddi sydd bellach yn cario'r A55.
Mae'r gwaith presennol yn cynnwys gwneud gwaith strwythurol i un o'r tyrrau er mwyn i'r bont allu gwrthsefyll tywydd garw yn well.
Wedi i'r gwaith ar Bont Britannia gael ei oedi am bythefnos yn sgil y cyhoeddiad annisgwyl am Bont y Borth, mae Network Rail a Llywodraeth Cymru wedi cytuno y gall y gwaith ailddechrau.
Bydd hynny'n digwydd yn ystod y nos rhwng 22:00 a 05:00, gyda'r ffordd yn cau'n achlysurol yn ystod y cyfnodau hynny.
"Bydd y bont ar agor drwy gydol, oni bai am ambell i gyfnod o 20 munud, wedi hanner nos ar rai shifftiau, pan fydd angen stopio traffig er mwyn sicrhau diogelwch pawb," meddai llefarydd ar ran Network Rail.
"Rydyn ni'n ymddiheuro am yr anghyfleustra all hyn achosi, ac yn diolch i bawb am eu hamynedd wrth i ni wella dibynadwyedd y cyswllt trafnidiaeth hanfodol hwn."
'Popeth i gyflymu'r broses'
Dywedodd Ms Crosbie ei bod hi'n "derbyn fod diogelwch yn dod gyntaf", ond y byddai hyn yn achosi mwy o darfu i fywydau pobl sy'n byw ar yr ynys.
"Mae gen i bryderon hefyd y byddai cau am hyd yn oed 20 munud yn ystod y nos yn gallu creu problemau i'n gwasanaethau brys," meddai.
"Rydyn ni'n gwybod fod hyd yn oed eiliadau'n cyfrif mewn sefyllfaoedd ble mae bywyd yn y fantol."
Mae disgwyl i'w gwaith ar Bont Britannia gael ei gwblhau erbyn 8 Rhagfyr, tra bod disgwyl i Bont y Borth fod ar gau'n llwyr nes y flwyddyn newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod cau Pont y Borth wedi gorfod digwydd "ar frys... i warchod diogelwch y cyhoedd".
"Rydyn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i gyflymu'r broses o drwsio'r bont fel bod modd ei hailagor pan fydd hynny'n saff i wneud," meddai.
Ychwanegodd fod y gwaith cynnal a chadw ar Bont Britannia yn "hanfodol" er mwyn lleihau problemau traffig ar yr A55 yn y dyfodol.
"Rydyn ni'n disgwyl y bydd llif traffig gyda'r nos 10 gwaith yn llai nag ydy o yn ystod oriau brig, felly bydd cyn lleied o darfu â phosib," meddai.
"Bydd gwasanaethau brys yn cael eu helpu i groesi'n saff os yw'n argyfwng golau glas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2022