Cau Pont y Borth yn 'waeth na'r pandemig' i fusnesau lleol

  • Cyhoeddwyd
Pont y Borth
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Bont y Borth fod ar gau tan y flwyddyn newydd i alluogi "gwaith cynnal a chadw hanfodol"

Mae cau Pont y Borth rhwng Gwynedd ac Ynys Môn yn cael effaith "waeth na'r pandemig" ar fusnesau lleol, yn ôl un perchennog.

Cafodd y bont ei chau yn ddi-rybudd fis diwethaf gan fod angen gwaith diogelwch arni.

Yn ôl un perchennog siop ym Mhorthaethwy, mae'r "siopau'n wag" gan fod pobl yn osgoi'r ardal oherwydd traffig.

Dywedodd perchennog siop arall na werthodd hi unrhyw beth yn ystod un diwrnod yr wythnos ddiwethaf - a hynny am y tro cyntaf erioed.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn eu bod mewn cysylltiad â'r llywodraeth ac yn gweithio ar ymgyrch i hyrwyddo busnesau lleol.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwneud popeth o fewn eu gallu i ailagor y bont" pan yn ddiogel.

'Gwaeth na dirwasgiad'

Mae Glyn Davies yn berchen ar Oriel Glyn Davies ym Mhorthaethwy.

"Dwi wedi bod yn y siop hon ers 20 mlynedd, i fi, mae hyn yn waeth nag unrhyw ddirwasgiad mawr, yn waeth na'r pandemig," dywedodd wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol.

Ffynhonnell y llun, Dale Spridgeon
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Glyn Davies na fydd yn gallu parhau gyda chyn lleied o gwsmeriaid

"O leia' bryd hynny fe gawson ni help a chefnogaeth.

"Mae 75% o fy nghleientiaid yn dod o Sir Gaer, rhai o Lerpwl a Manceinion, ond dwi'n eistedd yma gydag oriel wag. Mae pobl yn osgoi'r ardal.

"Alla i ddim parhau fel hyn am fisoedd, mae angen help, cefnogaeth ymarferol a gwybodaeth."

Dywedodd perchennog siop Butterfly Boutique, Sarah Morgan, ei bod wedi cymryd £0.00 ar ddiwedd un diwrnod yr wythnos ddiwethaf am y tro cyntaf ers agor ei busnes yn 2014.

"Mae'r effaith mae hyn yn ei gael ar rai busnesau yn ddinistriol," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Dale Spridgeon
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sarah Morgan ei bod wedi cymryd £0 mewn diwrnod am y tro cyntaf erioed yn ddiweddar

"Doedden ni ddim wedi gallu cynllunio ar gyfer hyn. Does neb yn gwybod am ba mor hir all hyn fynd 'mlaen."

Fe alwodd am wybodaeth a chefnogaeth ar frys: "Mae'n hynod bryderus fel busnes i beidio gwybod beth sy'n digwydd."

'Dibynnu ar fod yn brysur cyn y Nadolig'

Mae Rhiannon Elis Williams yn rhedeg siop Awen Menai yn y dref ac wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd bod angen "lledaenu'r neges fod tref Porthaethwy ar agor".

"Wythnos yma 'dan ni'n sicr 'di gweld cwymp [yn nifer y siopwyr] ella achos y straeon fod petha'n wael.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Y chwech wythnos cyn y Nadolig yw'r prysuraf yn ôl Rhiannon Elis Williams

"Ond os 'dach chi'n osgoi'r oriau brig... dwi heb gael unrhyw broblem o gwbl.

Dywedodd mai cyfnod y Nadolig yw'r adeg prysursaf i'r siop fel arfer a'i bod yn poeni am yr wythnosau nesaf.

"Fel siop, y chwech wythnos nesa' 'ma yw lle 'dan ni'n dibynnu ar fod yn brysur.

"Efo hyn, ar ben yr argyfwng costau, ar ben Covid, mae'n achosi pryder, ydy."

'Y traffig ddim mor ddrwg â hynny'

Ychwanegodd Sharon Owen, sy'n rhedeg caffi Clustiau Mul yn y dref, ei bod wedi sylwi ar hanner tymor llai prysur.

Ond dywedodd fod angen pwysleisio fod y dref "ar agor" hefyd.

"Dwi'n cytuno, mae angen gwneud y neges yn glir, fod y traffig ddim mor ddrwg â ma'r straeon yn ddweud, a chael cyfle i hysbysebu siopau a busnesau Borth [Porthaethwy].

"Yn sicr ma' isio' hyrwyddo fod Borth yn ddigon hawdd i fynd iddo fo."

Disgrifiad,

Rhun ap Iorwerth: 'Mae Porthaethwy ar agor er gwaethaf cau'r bont'

Fe gododd Virginia Crosbie AS y mater mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth.

Dywedodd fod y bont yn "allweddol bwysig" i'w hetholwyr a busnesau Ynys Môn.

"[Cafodd] bont mor bwysig [ei chau] heb rybudd, cynlluniau nag ystyriaeth o'r effaith leol a chenedlaethol," ychwanegodd.

Dywedodd aelod Plaid Cymru yn y Senedd, Rhun ap Iorwerth, y byddai'n gofyn i Lywodraeth Cymru am gymorth ariannol i fusnesau.

"Mae sawl busnes wedi cysylltu â fi yn dilyn cau'r bont gyda phryderon am ostyngiad yn nifer y siopwyr ac yn ariannol.

"Dwi wedi awgrymu sefydlu ymgyrch 'busnes fel arfer' i'r rheiny sydd wedi eu taro'n wael."

Dywedodd ei fod wedi cysylltu â'r cyngor sir hefyd.

'Gwneud popeth o fewn ein gallu'

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn eu bod "yn y broses o greu ymgyrch farchnata i hyrwyddo bod busnesau ar agor fel yr arfer".

"Rydym wedi codi pryderon ynglŷn ag effaith y mae'r sefyllfa bresennol yn cael ar fusnesau lleol ym Mhorthaethwy gyda Llywodraeth Cymru."

"Rydym yn pwysleisio bod busnesau ym Mhorthaethwy yn parhau i fod ar agor a bod angen eu cefnogi gymaint â phosib."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r tarfu ar fywydau pobl oherwydd y cau ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ailagor y bont cyn gynted ag y bo'n ddiogel i wneud hynny."