Gallai Cymru fod yn 'ddylanwadol' ym maes ynni gwyrdd
- Cyhoeddwyd
Mae un o orsafoedd ynni adnewyddadwy hynaf Prydain wedi'i chuddio mewn cwm anghysbell yn y canolbarth.
Ers 60 mlynedd mae gwaith ynni dŵr Rheidol wedi bod yn cynhyrchu trydan glân o'r glaw toreithiog sy'n syrthio ar fynyddoedd yr Elenydd.
Yn ôl y perchnogion mae Cymru mewn lle arbennig i fod "yn ddylanwadol" yn y maes ynni adnewyddadwy.
Ond mae melin drafod annibynnol yn rhybuddio bod y cynnydd hyd yma wedi bod yn rhy araf a bod angen targedau newydd.
Cydnabod hynny wnaeth Llywodraeth Cymru, ond dywedodd llefarydd ar eu rhan fod eu cynlluniau yn rhai "beiddgar".
Byddan nhw'n sôn am eu cynlluniau i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn ddiweddarach, wrth i arweinwyr y byd gyfarfod yn Yr Aifft ar gyfer uwchgynhadledd COP27.
Mae pobl "wastad yn synnu" wrth ddod ar draws y cynllun hydro sylweddol, meddai un o'r penaethiaid, Dennis Geyermann.
"Ond dyma stori ynni adnewyddadwy," meddai. "Mae'n dod â swyddi technolegol diddorol, o safon uchel i ardaloedd gwledig."
Dyma'r prosiect mwyaf o'i fath yng Nghymru a Lloegr, sy'n cynnwys cyfres o gronfeydd dŵr, sawl argae, twneli tanddaearol a gorsafoedd pŵer sy'n cydgysylltu.
Mae'n ymestyn ar draws ardal maint 162 cilomedr sgwâr, gan ddarparu digon o drydan i gyflenwi hyd at 15,000 o gartrefi.
'Mae'r Cymry'n barod amdani'
Ers 2008, Statkraft, sef cangen o lywodraeth Norwy a chynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, sy'n berchen ar y cynllun.
Mae'r prif adeilad yng nghwm hardd Cwm Rheidol ger Aberystwyth hefyd yn gartref i brif ganolfan reoli'r cwmni ym Mhrydain.
Oddi yno mae cynlluniau ynni adnewyddadwy eraill y cwmni - sy'n cynnwys yn ucheldiroedd Yr Alban - yn cael eu monitro 24 awr y dydd.
"Dyma yw calon y cyfan," esboniodd Mr Geyermann, un o ddirprwy lywyddion Statkraft UK.
Ychwanegodd fod gan y cwmni gynlluniau sylweddol ar y gweill i ehangu eu gwaith ym Mhrydain, ac mae eisoes wedi cyhoeddi y byddai'n datblygu ffatri hydrogen gwyrdd newydd yn Sir Benfro.
Fe allai Cymru fod yn "ddylanwadol o ran ynni adnewyddadwy," meddai.
"Mae gyda ni'r tirwedd iawn, digon o wynt a glaw ac mae 'na arfordir gwych."
Yn hollbwysig, "mae'r Cymry'n barod amdani hefyd," ychwanegodd.
'Pwyslais mawr' ar ynni gwyrdd
Fe gafodd Sarah South, sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn Statkraft UK, ei magu ger y cynllun hydro ac mae'n cofio pysgota gyda'i thad yn y cronfeydd dŵr, yn ogystal â theithiau ysgol di-ri i'r safle.
Dywedodd y byddai'n annog pobl ifanc i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn manteisio ar y "pwyslais mawr" fydd ar ynni gwyrdd yn y dyfodol.
"Cymraeg, Saesneg, y gwyddorau, mathemateg, daearyddiaeth - efallai eich bod chi'n meddwl eu bod nhw'n bynciau diflas yn yr ysgol ond fe fyddan nhw'n bwysig iawn," meddai.
"Mae'n ddiwydiant mor fawr sy'n ehangu ar hyn o bryd ac mor bwysig i ddyfodol y byd."
Wedi'i adeiladu ym 1962, ymhell cyn i bryder am newid hinsawdd hawlio'r penawdau, mae cynllun ynni dŵr Rheidol wedi sefyll yn ystod chwyldro ynni ym Mhrydain.
Ar y pryd roedd bron i holl drydan y wlad yn dod o losgi glo.
Erbyn 2020, am y tro cyntaf ers dros 200 mlynedd, roedd ystadegau ynni swyddogol yn dangos nad oedd glo yn chwarae unrhyw ran yn y broses o gynhyrchu ynni yng Nghymru.
Mae 56% o anghenion trydan y wlad bellach yn cael eu cyflenwi gan ffynonellau adnewyddadwy fel gwynt, solar a hydro.
Yn swyddogol, targed Llywodraeth Cymru yw cyrraedd 70% erbyn 2030, er bod hynny'n cael ei adolygu ar hyn o bryd.
'Cynnydd yn rhy araf'
Mae Auriol Miller, cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, yn dweud bod y cynnydd hyd yma wedi bod yn rhy araf.
"Mae'n rhaid i ni anelu'n uwch, ymhellach ac yn gyflymach o ran y targedau hynny," meddai.
Mae'r felin drafod wedi annog gweinidogion Cymru i gyrraedd 100% erbyn 2035 mewn cyfres o adroddiadau dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r Alban, o'i gymharu, fwy neu lai wedi cyrraedd y targed yna'n barod.
Mae Neil Lewis, sylfaenydd Carmarthenshire Energy Ltd, wedi datblygu prosiectau gwynt, solar a cherbydau thrydan ar draws y sir.
Mae'n dweud ei bod yn cymryd gormod o amser i ddechrau a gweithredu cynlluniau.
"Mae'r broses o gael caniatâd cynllunio i ffermydd gwynt cymunedol wedi cymryd 10 i 20 mlynedd i rai o'n cydweithwyr," meddai.
"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cyflymu'r broses."
Ymchwiliad i'r rhwystrau
Yn y cyfamser, mae pwyllgor newid hinsawdd Senedd Cymru hefyd wedi mynegi pryderon ynglŷn ag arafwch wrth ddatblygu ynni adnewyddadwy ers 2015.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod wedi cynnal ymchwiliad pellgyrhaeddol eleni i'r rhwystrau sy'n wynebu ynni adnewyddadwy, ac mae wedi addo targedau newydd erbyn haf nesaf a Chynllun Ynni Cenedlaethol erbyn 2024.
Yn ogystal mae wedi cyhoeddi'n ddiweddar ei bod yn sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth y wladwriaeth yng Nghymru - y cyntaf o'i fath ym Mhrydain.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod ganddyn nhw "dargedau beiddgar", gan gydnabod fod angen "mynd ymhellach ac yn gynt".
"Rydym yn cefnogi sefydliadau lleol i fynd i'r afael â newid hinsawdd a byddwn yn cefnogi busnesau i ddatblygu eu staff ar gyfer y dyfodol ynni glân.
"Yn yr argyfwng costau byw hwn, rhaid i ni ganolbwyntio ar ddod o hyd i'r ateb mwyaf fforddiadwy, sy'n cael yr effaith leiaf, gan y bydd y penderfyniadau ry'n ni'n gwneud heddiw yn cael effaith enfawr ar genedlaethau i ddod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd30 Awst 2022