Y fferm yn Nhregaron sy'n hunangynhaliol o ran ynni
- Cyhoeddwyd
Mae'r mwyafrif ohonom wedi gweld ein biliau ynni'n cynyddu eleni ond mae 'na rai sy' wedi eu gwarchod o'r cynnydd wedi iddynt fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.
Mae fferm Aled Lewis o Dregaron yn hunangynhaliol o ran ynni ers i Aled gychwyn trawsnewid systemau y fferm yn 2012. Mae'r ymdrech i fod yn hunangynhaliol wedi golygu buddsoddi dipyn yn y dechnoleg er mwyn i'w fferm redeg ar adnoddau naturiol.
Dywedodd Aled: "Yn 2012 dechreuon ni ar ynni adnewyddadwy - rhoion ni pwmp gwres ground source mewn yn nhŷ Mam a Dad, wedyn paneli solar ar y sied ar y ffarm. Wedyn rhoion ni boeler biomas i gynhesu dŵr."
Y cam nesaf oedd ymgeisio am ganiatâd am dyrbin gwynt ond ni lwyddodd y cais am dyrbin na chais diweddarach am system AD. (Mae system AD yn troi deunydd organic yn biogas sy'n ynni adnewyddadwy amlbwrpas).
Y peth diwethaf i Aled i gael ar y fferm oedd system cyfuno gwres a phŵer (sef combined heat and power neu CHP, sy'n fodd effeithiol, carbon-isel o gynhyrchu trydan a gwres o un ffynhonnell ynni, sef asglodion/wood chip).
Technoleg gwyrdd
Esbonia Aled pam mae wedi mynd lawr y trywydd yma: "Dwi'n lico technoleg, dwi'n lico gwahanol bethe - diversification oedd y gair mawr yn 2018.
"O'n i yn gweld y broblem yma gyda trydan yn dod ond dim cymaint a hyn o broblem.
"Does dim yr infrastructure ynni yng Nghymru i wneud y pethe hyn i gyd - mae'r Senedd a San Steffan eisiau i bob tŷ i rhedeg bant o air source neu heat pumps - does dim digon o drydan ar gael yn y wlad i redeg y ceir trydan 'ma a'r heat pumps a phopeth.
"Ni'n lwcus, mae'r fferm i gyd yn rhedeg bant o'r trydan (adnewyddadwy). Ni dal yn cael biliau trydan ac yn gorfod talu am y meters a'r standing charge ond dim ond rhwng tua £80 a £100 y mis.
Prisiau anghyson
"Dwi ar gytundeb yn gwerthu trydan nôl i'r grid ac eleni yw'r blwyddyn gynta' maen nhw'n pallu rhoi pris i fi.
"Dwi'n gwerthu trydan bob hanner awr o'r dydd ac mae'n amrywio o 8c y kw i 'butu 70c y kw. Mae e fel io-io. Am ddau o'r gloch y bore mae fe lawr i wyth ceiniog a chwech o'r gloch y nos mae'n dechrau codi 'to.
"Dwi dal ddim yn gwybod faint dwi'n mynd i gael o ddiwrnod i ddiwrnod am y trydan dwi'n cynhyrchu.
"Ni'n hunangynhaliol a ni'n gwerthu 30,000 uned mewn i'r grid bob mis.
Paneli solar
"Mae 'di bod yn flwyddyn dda i baneli solar yn yr haf eleni. Dwi'n cael arian da am y trydan dwi'n neud 'da'r paneli. Dwi wedi bod yn dilyn y taliadau anogaeth gan y llywodraeth i roi pethe mewn."
Defnyddio coed
Mae Aled hefyd yn gwneud defnydd o adnoddau naturiol yr ardal ar gyfer y boeler biomas: "I gael y coed i redeg y biomas dwi'n mynd rownd ffermydd a'n torri y coed gwastraff sy' gyda nhw, llosgi nhw a rhoi nhw mewn yn y boeler.
"Ni'n tynnu nwy mas o goed sy'n cael eu torri yn yr ardal ta beth ac maen nhw'n rhyddhau'r nwy 'ma a ni'n filtero fe ac mae e'n rhedeg pedwar injan - sy'n cynhyrchu ambutu 160kw yr awr.
"'Oedd y llywodraeth yn rhoi incentive oherwydd y Domestic Renewable Heat Incentive (DRHI) a'r tariffs yn cynhyrchu trydan.
"Allen i fod yn cynhyrchu digon o wres a digon o drydan i gadw Tregaron i fynd drwy'r haf a'r gaeaf."
Gwledydd eraill
Mae Aled yn cael ei ysbarduno gan ddefnydd o ynni adnewyddadwy mewn gwledydd eraill: "Dwi yn falch o beth ni wedi wneud ond licen i bod fi wedi gwneud rhagor ac wedi gweld y pentre yn hunangynhaliol.
"Dwi'n gweithio lot 'da cwmnïau o Finland - o fan 'na mae'r peiriannau 'ma wedi dod o ac mae llefydd fel Stockholm yn rhedeg ar y stwff hyn. Ond maen nhw'n clirio'r fforestydd yn lân, does dim ar ôl. Mae'r gwastraff i gyd yn cael ei ddefnyddio i gynhesu y tai yn Finland.
"Dwi'n lwcus bod rheolwr banc 'da fi oedd yn deall y passion sy' gyda fi i fynd lawr y lein o gynhyrchu trydan a gwres achos dwi wedi menthyg miloedd i gael y pethau hyn ac hefyd mae'n lot o waith i gadw nhw fynd. Mae'r peiriannau yn mynd 24 awr y dydd felly mae gwaith i newid olew a chadw peiriannau yn gryf."
Ydy'r ymdrech yn talu ffordd?
Yn ôl Aled: "Ydy, achos erbyn heddiw dwi'n byw mewn tŷ sy' a digon o wres, fi ddim yn gorfod becso am ddŵr achos ni'n tynnu'r dŵr i gyd ein hunain allan o'r ffynnon sy' gyda ni ar y fferm.
"Ni'n trio peidio gwastraffu dim ond mae sut gymaint arall allen ni 'neud os fydden ni'n cael cefnogaeth wrth y Senedd."
'Dyw rhai o'r taliadau anogaeth wnaeth Aled fanteisio arnyn nhw ddim ar gael bellach.
Meddai: "Ni 'di bod yn lwcus ble 'y'n ni ac hefyd y cymorth dwi wedi cael o'r cwmnïau 'ma i helpu fi i ddatblygu.
"Dwi yn lico hydrogen a licen i bydde mwy o amser 'da fi i fynd lawr y llwybr hynny er mwyn cynhyrchu mwy o egni mas o hydrogen.
"Mae'r infrastructure ddim yna i ddod âtrydan nôl i'r pentrefi, i roi charging points ac ati - mae'n mynd i gostio miliynau i neud 'na a bydde gwell gyda fi wario'r arian yn edrych mwy mewn i hydrogen.
"Mae'r technoleg yna - mae just ishe ei ddefnyddio fe."