Dan Biggar yn symud o Northampton i Toulon
- Cyhoeddwyd
Mae maswr Cymru Dan Biggar wedi ymuno â chlwb Toulon yn Ffrainc, gan symud yno'n syth ar ei gais ei hun.
Roedd y chwaraewr 33 oed eisoes wedi datgan y byddai'n gadael Northampton Saints ar ddiwedd tymor 2022-23.
Ond daeth cadarnhad ddydd Gwener y bydd yn ymuno â'i gyd-chwaraewyr newydd ar ôl gemau Cyfres yr Hydref.
Ni fydd yn cymryd rhan yng ngemau Cymru dros yr wythnosau nesaf oherwydd anaf.
Mewn pum mlynedd gyda'r Seintiau, fe chwaraeodd 69 o weithiau ac roedd ei gêm olaf yn y fuddugoliaeth yn erbyn Wasps yn y gynghrair ddechrau Hydref.
Dywedodd nad oedd wedi rhagweld gadael Northampton yng nghanol y tymor "ond fe gododd y cyfle yma'n sydyn iawn".
Ychwanegodd: "Fe wnes i fy mhenderfyniad gyda dyfodol tymor hir fy nheulu mewn golwg."
Fe gafodd ei brofion meddygol yr wythnos hon ac mae prif weithredwr Northampton wedi dymuno'n dda iddo, gan ei ddisgrifio fel chwaraewr "o'r radd flaenaf".
Biggar yw'r chwaraewr diweddaraf o Gymru i chwarae yn Ffrainc, gan ddilyn Gavin Henson, Leigh Halfpenny a Gethin Jenkins.
Mae wedi cael 103 o gapiau rhyngwladol, gan gapteinio'i wlad yn ystod pencampwriaeth Chwe Gwlad eleni a'r daith haf yn Ne Affrica.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2022