Rio Dyer i ennill ei gap cyntaf yn erbyn Seland Newydd

  • Cyhoeddwyd
Rio DyerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rio Dyer wedi creu argraff i'r Dreigiau y tymor hwn

Bydd yr asgellwr Rio Dyer ennill ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn Seland Newydd yng ngêm agoriadol Cyfres yr Hydref yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae chwaraewr 22 oed y Dreigiau yn dechrau ar yr asgell, gyda Leigh Halfpenny yn dychwelyd fel cefnwr ar ôl bron i flwyddyn allan gydag anaf.

Mae dau chwaraewr profiadol arall hefyd yn dychwelyd i'r tîm wedi anafiadau tymor hir, sef y bachwr Ken Owens a'r capten ar gyfer Cyfres yr Hydref, Justin Tipuric.

Bydd y gic gyntaf am 15:15 brynhawn Sadwrn yn Stadiwm Principality.

Mae Seland Newydd wedi cyhoeddi tîm cryf i herio'r Cymry, gyda'r brodyr Barrett - Beauden, Jordie a Scott - oll yn dechrau.

Disgrifiad,

Dywedodd Ken Owens ei fod yn falch o fod 'nôl yn chwarae wedi bron i flwyddyn allan gydag anaf i'w gefn

Gareth Anscombe sy'n dechrau fel maswr yn absenoldeb y capten arferol Dan Biggar oherwydd anaf, tra bod Tomos Williams wedi'i ddewis yn hytrach na Kieran Hardy yn safle'r mewnwr.

Daw cyfle Dyer ar yr asgell oherwydd anaf i arddwrn Josh Adams.

Tommy Reffell a Taulupe Faletau sy'n ymuno â Tipuric yn y rheng-ôl, gyda Christ Tshiunza o glwb Caerwysg yn barod i ddod ymlaen o'r fainc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Justin Tipuric ydy capten Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref yn sgil absenoldeb Dan Biggar

Dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac ei bod yn "grêt cael Ken Owens, Justin Tipuric a Leigh Halfpenny yn ôl".

"Mae ganddyn nhw lot o brofiad ac maen nhw'n chwaraewyr ar gyfer y gemau mawr, a dyw hi ddim yn mynd llawer mwy na herio Seland Newydd.

"Mae Rio wedi ffitio mewn yn dda iawn ac yn sydyn iawn - mae'n ffynnu yn yr amgylchiadau yma.

"Mae'n ddyn ifanc sydd wedi bod yn chwarae'n dda, mae wedi sgorio ceisiau da ac mae'n llawn hyder.

"Bydd yn golygu lot i chwaraewr ifanc i chwarae ei gêm ryngwladol gyntaf o flaen torf fawr."

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; Louis Rees-Zammit, George North, Nick Tompkins, Rio Dyer; Gareth Anscombe, Tomos Williams; Gareth Thomas, Ken Owens, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Justin Tipuric (capt), Tommy Reffell, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ryan Elias, Nicky Smith, Dillon Lewis, Alun Wyn Jones, Christ Tshiunza, Kieran Hardy, Rhys Priestland, Owen Watkin.

Tîm Seland Newydd

Beauden Barrett; Sevu Reece, Rieko Ioane, Jordie Barrett, Caleb Clarke; Richie Mo'unga, Aaron Smith; Ethan de Groot, Codie Taylor, Tyrel Lomax, Sam Whitelock (capt), Scott Barrett, Shannon Frizell, Dalton Papali'i, Ardie Savea.

Eilyddion: Samisoni Taukei'aho, Ofa Tu'ungafasi, Fletcher Newell, Tupou Vaa'i, Akira Ioane, Brad Weber, David Havili, Anton Lienert-Brown.

Cyfres yr Hydref

Cymru v Seland Newydd - Sadwrn 5 Tachwedd, 15:15, Stadiwm Principality

Cymru v Ariannin - Sadwrn 12 Tachwedd, 17:30, Stadiwm Principality

Cymru v Georgia - Sadwrn 19 Tachwedd, 13:00, Stadiwm Principality

Cymru v Awstralia - Sadwrn 26 Tachwedd, 15:15, Stadiwm Principality

Pynciau cysylltiedig