'Cafiar y Cymry' - adfywiad yr hen fara lawr
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf erioed, ar 14 Ebrill, mae'n Ddiwrnod Cenedlaethol Bara Lawr.
Jonathan Williams, perchennog Pembrokeshire Beach Food Company sydd wedi lansio'r diwrnod er mwyn dathlu'r gwymon bwytadwy sy'n rhan o ddiwylliant a phrydau Cymru ers canrifoedd.
I nodi'r diwrnod, yr hanesydd bwyd Carwyn Graves sy'n olrhain hanes bara lawr ar Cymru Fyw.
Dau o'r pethau sy'n cysylltu cynifer o fwydydd traddodiadol Cymru â'i gilydd yw mor rhyfedd yr oedden nhw'n ymddangos erbyn diwedd yr 20fed ganrif, ac mor faethlon yr ydyn ni wedi sylweddoli y maen nhw mewn gwirionedd erbyn hyn.
Mae bara lawr yn enghraifft wych o hyn; bwyd oedd yn ôl adroddiadau yn y BBC ar ei ffordd allan yn ôl yn yr 1970au, ond sydd bellach yn cael ei ystyried fel un o'r bwydydd allweddol ar gyfer diet cynaliadwy i'r dyfodol.
Bwyd cyffredin
Mae trigolion glannau gorllewinol Ynys Prydain wedi bod yn cynaeafu dail gwymon 'lawr' ers canrifoedd, os nad yn hirach. Ceir cyfeiriad pendant at drigolion Sir Benfro yn cynaeafu'r lawr yng ngwaith Gerallt Gymro yn y 12fed ganrif, ac mae'r hen air Cymraeg amdano, 'llafan', yn cael ei gofnodi yn y 16eg ganrif, gyda disgrifiad o'r ffordd y byddai'r bobl leol yn ei gynaeafu:
"[byddant] yn casglu yn y gwanwyn fath o Alga neu wymon, ac maent yn paratoi math o fwyd o'r enw lhavan neu lawvan, neu yn Saesneg, black butter. Mae'r gwymon yn cael ei olchi'n lân o dywod, ac yna byddant yn ei chwysu rhwng dwy garreg. Yna caiff y dail eu rhwygo'n fân a'i dylino'n dda fel petai'n does bara ac wedyn fe wnant ohono beli neu roliau, y mae rhai yn eu bwyta'n amrwd, ac eraill yn ffrio gyda cheirch a menyn."
Yr un arferiad yn union, sef ffrio'r bara lawr gyda cheirch a menyn neu saim oedd yn gyffredin ganrifoedd wedyn yn nhrefi a chymoedd de Cymru yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Mae atgofion llafar a gasglwyd gan Minwel Tibbot o amgueddfa Sain Ffagan yn y 1970au wrth bobl oedrannus a allai gofio eu plentyndod yn y 1890au yn rhoi ryseitiau i ni o Sir Aberteifi a de Sir Benfro, ac mae'n nodi mai'r 'dull mwyaf cyffredin o goginio bara lawr yn siroedd de Cymru oedd ei ffrio mewn braster bacwn a'i weini â bacwn i frecwast fel arfer'.
Roedd hyn yn boblogaidd iawn fel brecwast bore Sul mewn teuluoedd glofaol a rysait arall boblogaidd a barodd yn boblogaidd o fewn cof byw oedd 'cawl lafwr'.
Mewn oes gynharach, roedd y dosbarth canol a'r bonedd yng Nghymru a'r tu hwnt wedi darganfod ffyrdd eraill o'i weini, gan gynnwys cig maharen wedi ei drochi mewn saws lawr a sudd oren seville fel y ceid yn Abertawe yn ôl llyfr coginio o 1808.
Arbenigedd lleol
Mae'n ymddangos bod bara lawr yn ffefryn cyffredinol ar draws cymunedau de Cymru erbyn yr ugeinfed ganrif.
Gan ei fod yn tyfu'n wyllt ac yn doreithiog ar draethau ar draws rhannau helaeth o arfordir de-orllewin Cymru ac yn weddol hawdd ei adnabod o blith y gwymon, roedd yn ffynhonnell dda o arian poced. Fel nododd un wraig o Fro Gwŷr yn y 70au, byddai wastad ganddi beth yn y tŷ at ddefnydd y cartref ac hefyd i werthu i bobl leol am bedair ceiniog y pwys.
Ond mae dwy ardal yn ne Cymru sy'n gallu hawlio cysylltiad neilltuol gyda'r llafan, am resymau gwahanol. Y gyntaf yw arfordir de Sir Benfro, ac yn enwedig felly cymdogaeth pentre Angle.
Yno y codwyd yn yr 1870au gytiau arbennig o do brwyn yn unswydd i sychu'r lawr gan fod cymaint ohono yn cael ei gynaeafu yn y cylch, gan gyflogi dwsinau o fenywod yr ardal.
Fel dywedodd Mrs Joan Eynon o Angle wrth y Western Telegraph yn 1980, "Gwaith menywod oedd e," meddai, "ac yn ddiwydiant lleol i raddau helaeth iawn. Pan oeddwn yn ei wneud, roedd tua 12 ohonom, ond rwy'n credu unwaith yr oedd tua 50 o gasglwyr".
Mae'r casglu yn parhau ar draethau Sir Benfro hyd heddiw, ond o ddyfodiad y rheilffyrdd ymlaen byddai'r lawr yn cael ei werthu i ffatrïoedd aber Llwchwr ac Abertawe i gael ei baratoi ac yna ei werthu.
Gwlad cocos yw'r ardal honno yn draddodiadol, ond roedd gan y cwmnïau teuluol yno'r cysylltiadau angenrheidiol gyda'r marchnadoedd, ac roedden nhw'n gweithredu ar raddfa ddigonol i allu coginio'r lawr hefyd.
Dau o'r cwmnïau hynny yn anad neb - Parson's ym Mhorth Tywyn a Selwyn's ym Mhenclawdd - sydd wedi llwyddo i gael lafwr i'r archfarchnadoedd a chynnal marchnad iddo dros y degawdau diwetha'.
Weithiau roedd angen bod yn wirioneddol ddyfeisgar i wneud hynny, gan fod arferion bwyta yn newid yn gyflym yng Nghymru ac ymdeimlad cyffredinol bod y bwydydd traddodiadol yn hen ffasiwn a di-fflach.
Un o'r syniadau hynny oedd creu 'creision' bara lawr, tebyg i'r nori Siapaneaidd, ac un arall oedd datblygu ryseitiau newydd gan gynnwys quiche bara lawr a bara lawr gyda phasta.
Dyfodol cynaliadwy?
Mae rhinweddau maethegol bara lawr bron yn rhy dda i gredu, gan gynnwys llawn cymaint o brotein bob 100g ag sydd ar gael mewn cyw iâr, pedair gwaith mwy o fitamin C ag afalau, a lefelau uwch o haearn ag iodin nag yn yr un planhigyn gwyrdd o'r tir (o blith y gwymon bwytadwy i gyd, lawr yw'r mwyaf maethlon o bell ffordd).
Mae hefyd blas umami nodedig (tebyg i olew olewydd) yn perthyn iddo, sy'n gyfrifol am y bri mae coginio Siapan wedi rhoi ar y gwymon hwn.
Does dim syndod felly ei fod wedi derbyn sylw o'r newydd dros y blynyddoedd diwethaf o sawl cyfeiriad. O ran y tueddiad cynyddol tuag at fwyta llai o gig, mae lawr yn cynnig ffynhonnell gyfoethog a fforddiadwy o'r union fineralau a maethynnau hynny sydd yn anodd eu cael o blanhigion mewn diet figanaidd neu lysieuol.
Ond ar ben hynny, dyw'r lawr ddim yn cymryd tir amaethyddol prin; nac ychwaith chwynladdwyr na gwrtaith o fath yn y byd i'w dyfu.
Yn wyneb hyn, mae gwaith wedi bod ar droed ers rhai blynyddoedd i edrych ar y posibilrwydd o dyfu bara lawr. Hyd yn hyn - ac ers dyddiau Gerallt Gymro - cynhaeaf gwyllt fuodd y llafan erioed. Ond mewn egwyddor, byddai modd tyfu'r gwymon ar raffau tanddwr, a'i gynaeafu ar raddfa fwya' helaeth eto.
Yr her fwya' i'r bara lawr dros y degawdau diwetha' oedd ei ddelwedd. Ond wrth i ni sylweddoli mor faethlon yw'r bwyd, gallwn werthfawrogi o'r newydd graffter ein hynafiaid yn dethol y gwymon hwn uwchben yr holl wymon bwytadwy sydd ar gael ar lannau Cymru.
Ac wrth i ni ymaflyd i sicrhau diet cynaliadwy i'r byd, mae gwyddoniaeth fodern wedi ein harwain yn ôl at rai o'n bwydydd mwya' traddodiadol. Ymgais gwiw i ddathlu hynny yw sefydlu 'Diwrnod Cenedlaethol Bara Lawr' ar Ebrill 14eg.
Carwyn Graves yw awdur Welsh Food Stories, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Mai.
Hefyd o ddiddordeb: