Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-2 Wigan
- Cyhoeddwyd
Ar bapur roedd hon yn edrych fel cyfle i Abertawe gadw mewn cysylltiad gyda'r clybiau ar frig y Bencampwriaeth ond nid felly y bu.
Er bod Wigan yn un o'r timau ar waelod y tabl wnaethon nhw ddim dangos eu bod nhw mewn trafferthion yn y munudau agoriadol.
Dim ond wyth munud gymerodd hi i Will Keane sgorio'r gôl da ar ôl gwaith da gan James McLean.
Asgellwr Gweriniaeth Iwerddon greodd yr ail gôl ar ôl ychydig dros chwarter awr gyda Tom Naylor yn elwa o'r croesiad y tro yma.
Fe gymerodd hi sbel i'r tîm cartref ddod o hyd i'r hyder sydd wedi sbarduno eu rhediad da diweddar. Fe gyrhaeddodd gôl gyntaf ychydig cyn hanner amser gyda ergyd troed chwith Ryan Manning o du allan i'r cwrt cosbi yn canfod cornel dde y rhwyd.
Roedd yn rhaid i'r ffyddloniaid ddisgwyl tan chwe munud o'r diwedd tan i'r Elyrch ddod yn gyfartal Yn dilyn trosedd ar Kyle Naughton yn y cwrs cosbi fe sgoriodd Joël Piroe gyda'r gic o'r smotyn.
Mae Abertawe bellach yn nawfed yn y tabl.