Y Bencampwriaeth: Sunderland 0-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
SunderlandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Buddugoliaeth brin oddicartref i Gaerdydd yn Sunderland

Fe symudodd Gaerdydd bedwar bwynt yn glir o waelod y Bencampwriaeth gyda'r fuddugoliaeth hon o gôl i ddim yn Sunderland.

Fe fyddai'r Adar Gleision wedi bod ar y blaen ar yr egwyl ond fe gafodd cic o'r smotyn Joe Ralls ei harbed gan Anthony Patterson. Fe ddaethon nhw yn agos ar sawl achlysur arall hefyd.

Ychydig funudau i mewn i'r ail hanner fe ddaeth llwyddiant i Gaerdydd. Ceisiodd Mahlon Romeo ac ergydio ond syrthiodd y bêl yn garedig i lwybr Mark Harris .

Daeth Sunderland yn fwy i mewn i'r gêm ond doedden nhw ddim yn fygythiad i gôl yr ymwelwyr.

Mae Caerdydd bellach yn bedwerydd ar ddeg yn y tabl.