Cwpan FA Lloegr: Wrecsam 3-0 Oldham
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd Wrecsam fuddugoliaeth fawr o 3-0 ar y Cae Ras yn erbyn Oldham Athletic brynhawn Sul.
Fe aeth y Dreigiau ar y blaen yn gynnar pan fanteisiodd Sam Dalby ar gamgymeriad gan Jayson Leutwiler, golgeidwad yr ymwelwyr.
Rheolodd Wrecsam yr hanner cyntaf bron yn llwyr ac fe aethon nhw ymhellach ar y blaen gyda gôl fendigedig arall gan y prif sgoriwr, Paul Mullin.
Ychydig wedyn fe ychwanegodd Mullin ei 15fed gôl y tymor hwn ar ôl i amddiffyn Oldham fethu a chlirio tafliad hir gan Tozer.
Fe adawodd hynny Mullin yn rhydd i benio i gefn y rhwyd.
Bydd Wrecsam a Chasnewydd yn yr het felly pan fydd enwau'r timau fydd yn herio ei gilydd yn yr ail rownd yn cael eu cyhoeddi am 19:00 nos Lun.