Neil Taylor yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-amddiffynnwr Cymru, Neil Taylor, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed proffesiynol yn 33 oed.
Fe chwaraeodd dros Wrecsam, Abertawe, Aston Villa a Middlesbrough yn ystod ei yrfa 15 mlynedd.
Enillodd 43 o gapiau i Gymru, gan gynnwys ym mhob gêm wrth i'r tîm gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016.
Sgoriodd ei unig gôl ryngwladol yn y twrnament hefyd, wrth i Gymru drechu Rwsia o 3-0 yn Toulouse.
Ar ôl cynrychioli Manchester City fel plentyn, daeth Taylor trwy academi Wrecsam, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb yn 2007.
Symudodd i Abertawe yn 2010 ble chwaraeodd 179 o gemau, cyn arwyddo i Aston Villa yn 2017.
Yn fwy diweddar bu'n chwarae i Middlesbrough, cyn iddo gael ei ryddhau gan y clwb yn yr haf.