'Angen cosbau llymach am droseddau casineb hiliol'
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yma yn cynnwys iaith sarhaus a hiliol allai beri gofid i rai.
Mae dyn o Ynys Môn a gafodd ei gam-drin yn hiliol mewn clwb nos wedi dweud wrth Newyddion S4C bod angen cosbau llymach am droseddau o'r fath.
Mae'r ymosodiadau ar Ebehitale Igene ym Mangor yn gynharach eleni wedi cael eu disgrifio gan un heddwas fel y "mwyaf ffiaidd" a welodd o erioed yng ngogledd Cymru.
Fis diwethaf, ar ôl pledio'n euog, fe gafodd Tomos Wilson, 19 o Star ger Gaerwen ddedfryd o garchar am chwe mis wedi'i gohirio.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â throseddau casineb o bob math.
Symudodd Mr Igene i'r Deyrnas Unedig o Nigeria dair blynedd yn ôl. Roedd ganddo radd mewn astudiaethau busnes ond ei uchelgais oedd astudio'r gyfraith yma.
Mae'n byw yn Llangefni efo'i bartner a'i phlant hi - ac mae ganddyn nhw ferch fach blwydd oed.
Yn ogystal â bod yng nghwmni ei deulu, dawnsio a cherddoriaeth ydy diddordeb Mr Igene, ond ers yr ymosodiadau mae o'n dweud ei fod o wedi mynd i'w gragen.
"Mae'r weithred hon wedi gwneud i mi deimlo'n isel," dywedodd.
"Mae wedi gwneud i mi deimlo fy mod eisiau lladd fy hun. Mae wedi chwalu fy hapusrwydd. Mae wedi chwalu fy ngyrfa."
"Pam fyddech chi jyst yn fy ngweld i a fy nghasáu oherwydd lliw fy nghroen? Dydy hi ddim o bwys o ble ry'n ni'n dod, ry'n ni i gyd yn gwaedu yr un fath."
Beth ddigwyddodd yn y clwb nos?
Ar nos Wener ganol fis Mawrth eleni, fe ddechreuodd dyn ifanc herio Mr Igne yn hiliol. Y nos Wener wedyn fe ddigwyddodd yr un peth, ac eto y nos Wener ganlynol.
Y trydydd tro, roedd un o ffrindiau Tomos Wilson yn ffilmio.
Roedd y cwbl yn y Gymraeg, a doedd Abel ddim yn deall beth oedd yn cael ei ddweud.
Roedd yna batrwm i'r aflonyddu. Roedd Tomos Wilson yn dilyn Mr Igene i mewn i'r toliedau ac yn ei sarhau yn hiliol.
Nes ymlaen, ar ôl gadael y clwb nos, mi wnaeth Tomos Wilson rannu'r fideo ar wefan gymdeithasol ar-lein.
Yn y cyfamser ar yr un noson bu'n cam-drin swyddog diogelwch mewn siop tecawê yn hiliol hefyd.
Cafodd ei arestio ar ôl i aelod o'r cyhoedd weld fideo a galw'r heddlu.
Wrth sôn am ei theimladau wrth weld y fideo am y tro cyntaf, dywedodd partner Mr Igne, Nicola Owen: "O'dd tempar fi yn berwi de."
"O'n i yn ffonio fo a ffonio fo a d'eud - 'It's disgusting they are racially abusing you', ond doedd o ddim yn d'allt o nag oedd, o'dd o'n Gymraeg."
"Dwi erioed wedi gorfod delio efo hyn. Dwi'n wyn so dwi ddim yn gwbod sut beth ydy o go iawn nac'dw. Mae o'n afiach de."
Mae plismon oedd yn gweithio ar yr achos wedi disgrifio'r gamdriniaeth hiliol yma fel yr un "mwyaf ffiaidd" iddo weld yng ngogledd Cymru.
Er bod y llu yn dweud fod troseddau o'r fath yn anghyffredin, maen nhw'n annog pobl i gysylltu ar unwaith os ydyn nhw'n gweld achosion o hiliaeth.
"'Dan ni ddim yn mynd i gymryd y math yma o ymddygiad yn yr ardal yma, a plis rhowch wbod - mi nawn ni eich cefnogi chi, ond plis dowch ymlaen a'i reportio fo," dywedodd Yr Arolygwr Arwel Hughes o Heddlu'r Gogledd.
Dedfryd wedi ei gohirio
Fis ddiwethaf, fe glywodd Llys Ynadon Caernarfon fod Tomos Wilson yn edifar ac fe blediodd yn euog i un cyhuddiad o ymosodiad cyffredin a waethygwyd gan hiliaeth.
Plediodd yn euog hefyd i ddau gyhuddiad o aflonyddu hiliol yn erbyn Mr Igene, a chyhuddiad pellach o aflonyddu ar sail hil ar ôl sarhau swyddog diogelwch y tu allan i siop tecawê ym Mangor.
Cafodd ddedfryd ohiriedig o 20 wythnos, a hefyd gorchymyn i dalu iawndal o £500 i'w ddioddefwr.
Cafodd Wilson ei wahardd hefyd rhag mynd at Mr Igene am ddwy flynedd ac mae wedi derbyn gorchymyn i gadw draw o'r clwb nos hefyd.
Mae'n gorfod gwisgo tag electronig i sicrhau nad yw'n yfed alcohol am y tri mis nesaf.
Ond, mae Mr Igene yn teimlo bod dedfryd o garchar gohiriedig yn anfon y neges anghywir.
"Fe wnaeth e rannu'r fideo heb fy nghaniatâd. Fe wnaeth e fy ngwawdio dair gwaith," dywedodd.
"A wedyn ry'ch chi'n rhoi dedfryd chwe mis wedi ei ohirio i'r person.
"Ddylai'r rheiny sy'n cael eu dal yn cam-drin pobl yn hiliol ddysgu gwers a'u cosbi yn ôl y gyfraith."
Yn ôl Pennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, Dylan Rhys Jones, mae ynadon yn gorfod gweithio o fewn canllawiau llym sy'n cael eu gosod gan lywodraeth y DU.
"Er fod carchar yn addas ar gyfer y drosedd yma, mae'r amgylchiadau yn ddigonol i ohirio y cyfnod o garchar am gyfnod o amser," dywedodd.
"Ar hyn o bryd be ma'r ynadon yn neud ydi gweithio dan y canllawia' maen nhw wedi derbyn.
"Os ydy llywodraeth yn y dyfodol yn mynd i ystyried rhoi mwy o bwyslais ar sicrhau nad ydy troseddau o'r math yma yn digwydd, hwyrach fod angen codi y ddedfryd yn uwch... a bod angen sicrhau fod cyfnodau yn y carchar yn gyfnodau hirach."
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dweud eu bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â throseddau casineb o bob math, pan maen nhw'n achosion sy'n pasio prawf cyfreithiol ac yn achosion sy'n creu pryder i holl ddioddefwyr troseddau casineb.
Mae Newyddion S4C wedi ceisio cysylltu efo Tomos Wilson ac yn ôl ei gyfreithiwr, fel rhan o'i ddedfryd, cafodd orchymyn am ddwy flynedd i beidio â chysylltu gydag Abel Igene, boed hynny'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
Doedd o ddim am wneud sylw pellach.
Wrth drafod hiliaeth yn gyffredinol yng ngogledd Cymru, dywedodd Nicola Owen fod perthynas iddi wedi ei rhybuddio ychydig flynyddoedd yn ôl y byddai'r teulu'n cael eu cyffwrdd gan hiliaeth rhyw dro.
"Pan fydd babi chdi 'di cael ei eni, nei di sylwi pwy sydd yn racists a pwy sydd ddim - efo'r ffordd maen nhw'n sbio ar y babi.
"Dwi 'di bod ar bws o'r blaen, a'r hen ddynes 'ma'n sbio ar merch fi fel bod hi'n afiach.
"Es i siopa efo chwaer fi blwyddyn diwetha', ac un ddynas yn mynd all the way round, ddim isio pasio ni am bod hogan bach fi yn y trolley.
"Ma'n amser i bethau newid achos dio'm yn fair ar bobl du cael hyn.
"Ma' hi'n 2022. Bo' rhywun yn medru siarad fel'a efo person du, o'n i'n gobsmacked de."
Mae mis Hydref yn nodi Hanes Pobl Dduon, cyfle i ddathlu a chreu cymdeithas fwy cyfartal. Ond, mae'r teulu hwn yn gweld fod tipyn o ffordd i fynd i bawb ddeall y neges.
Am wybodaeth am sefydliadau sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth, ewch i wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd24 Awst 2022