Teulu'n gadael Cymru wedi honiadau o hiliaeth mewn ysgol

  • Cyhoeddwyd
Bagiau wedi pacio i symud

Mae ei dillad a'i llyfrau wedi pacio mewn bocsys a bagiau du wrth i'r teulu baratoi i adael Cymru.

Yn ôl y teulu, mae nhw'n gadael oherwydd hiliaeth tuag at eu merch yn yr ysgol wnaeth iddi deimlo'n "ofnus" ac "ynysig".

Yn 13 oed, mae'r ferch yn barod wedi treulio amser mewn ysgol newydd yng ngogledd Lloegr tra bod gweddill y teulu yn gwagio pob dim o'u cartref yng Ngwynedd.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod holl ysgolion y sir yn cymryd pob achos o hiliaeth, bwlio ac aflonyddu o ddifrif.

Geiriau hiliol a gwawdio

Yn ôl Laura, y fam - nid ei henw iawn - fe symudodd y teulu i'r ardal yn llawn gobaith yn ystod y pandemig.

Ond fe sylweddolon nhw bod eu merch, fu yn yr ysgol uwchradd leol, yn unig a doedd ganddi ddim llawer o ffrindiau agos. Roedd hi'n bwyta ei chinio ar ei phen ei hun.

Yn gynharach eleni, fe ddywedodd wrth ei rhieni bod rhai o ddisgyblion hŷn yr ysgol wedi bod yn defnyddio geiriau hiliol.

Disgrifiad o’r llun,

Dydy BBC Cymru ddim yn datgelu enw'r fam, fuodd yn trafod sefyllfa ei merch gyda Bethan Lewis

"Roedd hi'n sefyll allan, felly mae'n rhywbeth roedd hi'n ymwybodol iawn ohono fe - ei hymddangosiad hi a'i golwg gan ei bod o gefndir hil gymysg," meddai Laura.

Mae hi'n dweud i'w merch glywed geiriau hiliol ac y bu ymddygiad gwawdlyd tuag ati.

Roedd hynny'n cynnwys plant yn chwarae cerddoriaeth rap â geiriau hiliol, meddai, a gofyn i'w merch sut oedd hi'n teimlo am y peth - "roedd y gwawdio'n digwydd".

Roedd arweinwyr yr ysgol yn "ddigalon iawn", ychwanegodd, pan glywon nhw am yr hyn oedd yn digwydd, ond roedd y teulu'n anhapus gyda'r camau gafodd eu cymryd.

Yn ôl Laura, cafodd rhai disgyblion eu diarddel, ond dim ond am rai diwrnodau.

'Mae 'na greithiau meddyliol'

Y rhan anoddaf i'r teulu oedd gweld effaith hyn ar eu merch.

"Mae hi wedi bod yn dawel iawn, yn eithaf trist, ac mae 'na ddicter amlwg wedi bod yn ei hymddygiad hi - 'chi'n gallu ei weld e," meddai Laura.

"Am gyfnod doedd hi ddim eisiau bwyta. Doedd hi ddim yn cysgu'n dda iawn o gwbl, a dywedodd hi bod arni ofn."

Mae'n dweud bod ei merch yn dal i brosesu popeth a "dydy hi ddim yn deall y casineb sydd wedi cael ei gyfeirio tuag ati".

Dywedodd: "Er nad yw hi wedi cael ei brifo'n gorfforol, mae' na greithiau meddyliol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa wedi dadrithio'r teulu, sydd wedi cwyno i'r ysgol a'r heddlu

Roedd yna ddigwyddiad arall hefyd, meddai, pan gafodd disgybl ei glywed yn disgrifio ei merch mewn "ffordd anhygoel o hiliol".

Erbyn hynny, roedd y teulu wedi dadrithio ac yn poeni be' all ddigwydd nesa'. Felly, fe wnaethon nhw benderfyniad mawr.

"Fe wnes i a fy ngŵr y penderfyniad i symud - just i adael."

Mae'r teulu wedi gwneud cwyn swyddogol i'r ysgol a'r heddlu.

'Cymryd pob achos o ddifrif'

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Addysg Gwynedd: "Mae'r Awdurdod Addysg, a holl ysgolion Gwynedd, yn cymryd pob achos o hiliaeth, bwlio ac aflonyddu o ddifrif. Rydym yn ymdrechu'n galed i sicrhau fod ein hysgolion yn llefydd cynhwysol a theg."

Ychwanegodd bod gan y cyngor drefniadau a pholisïau clir mewn lle i ymateb i bryderon am ymddygiad annerbyniol.

"Mae unrhyw adroddiad o hiliaeth yn destun pryder mawr i ni ac rydym yn annog disgyblion a rhieni i drafod 'efo'r ysgol os ydynt yn dioddef ymddygiad o'r fath neu'n gweld disgybl arall yn cael ei dargedu."

Mae ymddygiad gwahaniaethol sy'n effeithio ar fyfyrwyr yn cael ei drin "yn unol â'n polisi ymddygiad", meddai, "ac fe all hynny arwain at waharddiad am gyfnod penodol neu barhaol".

"Mae ein disgyblion a'u teuluoedd yn gwybod fod hiliaeth yn drosedd casineb a gall digwyddiadau hiliol arwain at erlyniad gan yr Heddlu," meddai'r llefarydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Awdurdod Addysg Gwynedd bod yna drefniadau a pholisïau clir mewn lle i ymateb i bryderon am ymddygiad annerbyniol

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud eu bod nhw mewn cysylltiad gyda'r teulu.

"Rydym yn annog ysgolion i gofnodi, riportio ac ymateb i ddigwyddiadau o'r math yma gan na fydd iaith neu ymddygiad hiliol yn cael eu goddef," meddai'r Arolygydd Lisa Jones.

Dywedodd bod eu swyddogion "yn gweithio'n galed i annog plant a phobl ifanc i ddeall effaith eu geiriau a'u gweithredoedd, i barchu gwahaniaeth ac i hyrwyddo cymunedol clos yn y tymor hwy".

Mae Laura'n ddagreuol wrth ddisgrifio sut y gwnaeth ei merch gyfleu ei theimladau mewn llun: "Roedd e'n lun o ddioddefaint."

Mae hi'n galw ar bobl ifanc i gael addysg well am gynhwysiant ac agweddau amrywiol ac amlddiwylliannol.

Ychwanegodd: "Ddylai fod dim anghyfiawnder - rwy'n deall fod bwlio'n digwydd, ond sut mae'r ysgol yn delio â'r peth sy'n bwysig."

'Angen gwybod sut i ddelio â phobl yn sensitif'

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol y mis diwethaf, oedd yn cynnwys mesurau ar sut i gael gwared ar hiliaeth mewn ysgolion.

Yn ôl gwaith ymchwil gan yr elusen Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru, darganfuwyd bod 25% o athrawon wedi dod ar draws hiliaeth yn eu hysgolion.

Disgrifiad o’r llun,

Stuart Williams yw cadeirydd pwyllgor cynghori'r ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Dywedodd 70% o ddisgyblion bod hiliaeth yn bodoli yn yr ysgolion a dywedodd tri o bob 10 eu bod nhw eu hunain wedi bod yn hiliol.

Mae'r elusen yn cynnig hyfforddiant i ddisgyblion ac i staff.

"Mae angen sicrhau bod yr athrawon yn gwybod sut i ddelio ag achosion achos mi fydd yna perpetrator a victim ac mae angen gwybod sut i ddelio â phobl yn sensitif," meddai Stuart Williams, cadeirydd pwyllgor cynghori Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.

Ychwanegodd bod angen gwneud yn siŵr hefyd bod unrhyw achosion o hiliaeth yn cael eu cofnodi gan ysgolion ac awdurdodau lleol.

Pynciau cysylltiedig