Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2022

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2022 - wedi ei chyhoeddi gan blant y Rhondda!

Mae Robert Page wedi cyhoeddi'r 26 o chwaraewyr fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Bydd y cefnogwyr yn falch nad oes enw mawr ar goll, gyda Gareth Bale, Aaron Ramsey a Ben Davies wedi'u henwi.

Mae Joe Allen hefyd yn y garfan er amheuon am ei ffitrwydd.

Ni fydd yr ymosodwr Tyler Roberts yn teithio i Doha, ac yn ôl y disgwyl ni chafodd Rhys Norrington-Davies ei enwi oherwydd anaf.

Does dim lle i chwaraewyr fel Rabbi Matondo, Wes Burns, Luke Harris ac Oli Cooper.

Ond mae nifer o arwyr Euro 2016 wedi sicrhau eu lle ar yr awyren - gan gynnwys Chris Gunter, Jonny Williams a Wayne Hennessey.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn fyw nos Fercher o bentref Pendyrus yn y Rhondda - yr ardal y cafodd rheolwr Cymru, Page, ei fagu.

Carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd Qatar 2022

Golwyr

Wayne Hennessey (Nottingham Forest), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Sheffield United)

Amddiffynwyr

Neco Williams (Nottingham Forest), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Ethan Ampadu (Chelsea, ar fenthyg yn Spezia), Chris Mepham (Bournemouth), Joe Rodon (Tottenham Hotspur, ar fenthyg yn Rennes), Connor Roberts (Burnley), Chris Gunter (AFC Wimbledon), Ben Cabango (Abertawe), Tom Lockyer (Luton Town)

Canol cae

Joe Allen (Abertawe), Joe Morrell (Portsmouth), Dylan Levitt (Dundee United), Matt Smith (MK Dons), Sorba Thomas (Huddersfield Town), Aaron Ramsey (OGC Nice), Jonny Williams (Swindon Town), Harry Wilson (Fulham), Rubin Colwill (Caerdydd)

Ymosodwyr

Dan James (Leeds United, ar fenthyg yn Fulham), Gareth Bale (Los Angeles FC), Brennan Johnson (Nottingham Forest), Kieffer Moore (Bournemouth), Mark Harris (Caerdydd)