Cefnogi chwaraewyr Cymru i siarad am hawliau Qatar - Mooney

  • Cyhoeddwyd
Noel MooneyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Noel Mooney y bydd cefnogwyr Cymru sy'n aelodau o'r gymuned LHDTC+ yn cael eu cefnogi yn Qatar

Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cefnogi chwaraewyr Cymru i siarad yn gyhoeddus am bryderon hawliau dynol Qatar, yn ôl eu prif weithredwr.

Roedd Noel Mooney yn ymateb i sylwadau gafodd eu gwneud gan un o lysgenhadon y twrnament yn Qatar am y gymuned LHDTC+.

Fe ddywedodd Khalid Salman fod bod yn hoyw yn "niwed yn y meddwl".

Yn y cyfamser, mae AS Llafur blaenllaw o Gymru wedi ymuno â galwadau ar brif weinidog Cymru i beidio â mynychu Cwpan y Byd.

Dywedodd Chris Bryant mai ei neges i Mark Drakeford a'i Weinidog Economi, Vaughan Gething, sydd hefyd yn mynd i gêm, oedd na fyddan nhw'n newid barn Qatar ar hawliau dynol.

"Mae ganddyn nhw farn sefydlog iawn, maen nhw'n meddwl mai rhywbeth gwyrdroëdig yw bod yn hoyw," meddai AS y Rhondda.

Ond dywedodd Mr Gething: "Rydym yn ceisio ymgysylltu, annog, perswadio."

Bydd Mr Drakeford, arweinydd Llafur Cymru, yn gwylio Cymru yn chwarae UDA, tra bydd Mr Gething yn y gêm yn erbyn Lloegr.

Ddydd Mawrth fe ddywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price ei fod, fel dyn hoyw, yn credu y byddai'n anfon y "neges anghywir" i Mr Drakeford fynd i Qatar.

Wrth siarad ar raglen Newsnight y BBC nos Fawrth, dywedodd Noel Mooney bod CBDC wedi eu hargyhoeddi y bydd Cwpan y Byd yn "gynnes a chynhwysol".

Ond dywedodd bod sylwadau Khalid Salman yn "ofnadwy".

Pwysleisiodd Mr Mooney eto y bydd y gymdeithas bêl-droed yn defnyddio Cwpan y Byd fel "platfform i wneud y byd yn le gwell".

Ychwanegodd y bydd digon o gefnogaeth ar gael i gefnogwyr.

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd Mr Mooney mai nad "cystadleuaeth" yw ymateb i broblemau Qatar.

Ffynhonnell y llun, YVES HERMAN
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale ymysg capteiniaid sydd wedi gwisgo band One Love - sy'n dangos gwrthwynebiad i bob math o wahaniaethu

Dywedodd yr ymgyrchydd LHDTC+, Peter Tatchell, y dylai chwaraewyr fanteisio ar y cyfle mewn cynhadleddau i'r wasg i siarad am hawliau dynol.

Pan ofynnwyd i Mr Mooney a fyddai'n gefnogol o Gareth Bale neu Dan James, er enghraifft, yn gwisgo crys sy'n dweud "solidariaeth gyda LHDTC+", dywedodd y byddai CBDC "wastad yn cefnogi eu chwaraewyr".

Dywedodd y bydd materion yn cael eu trafod gyda'r garfan, fydd yn cael ei chyhoeddi nos Fercher.

"Mae hyn i gyd i'w drafod, bydd y garfan yn dod i mewn dros y dyddiau nesaf, felly gallwn ni drafod hynny cyn i ni fynd allan," dywedodd.

"Byddwn ni'n sicr yn defnyddio'r twrnament fel platfform i drafod.

"Fe wnaethon ni wisgo'r band braich enfys yn ystod y gemau diweddaraf mewn solidariaeth gyda'r gymuned LHDTC+.

"Os yw'n chwaraewyr eisiau siarad yn ystod y twrnament, bydd CBDC yno i'w cefnogi, yn sicr."

Trafodaeth gyson gyda chefnogwyr LHDTC+

Daw ei sylwadau ar ôl i Mr Mooney ddweud dydd Llun nad "pasiant prydferthwch" na "chystadleuaeth" yw ymateb i bryderon hawliau dynol Qatar.

Dywedodd y bydd digon o gefnogaeth ar gael i gefnogwyr Cymru sy'n rhan o'r gymuned LHDTC+ fydd yn teithio i Qatar.

"Mae'r wal enfys yn ganolog i'n cefnogwyr ni - Y Wal Goch - ac maen nhw'n mynd [i Qatar] gyda sicrwydd wedi ei roi i ni gan FIFA a Qatar fod popeth yn ddiogel.

"Ry'n ni wedi gosod ein llysgenhadaeth i gefnogwyr yng nghanolfan gonfensiwn Doha a byddwn mewn trafodaeth gyson gyda'n cefnogwyr LHDTC+ fydd yn Qatar.

"Byddan nhw'n gallu siarad gyda ni bob amser allan yno."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jess Fishlock y bydd hi'n teithio i Qatar er mwyn bod "yn weledol" fel menyw hoyw

Bydd Jess Fishlock, y pêl-droediwr sydd â'r mwyaf o gapiau dros Gymru, yn teithio i Qatar er mwyn bod "yn weledol" fel menyw hoyw.

Wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast dywedodd bod y sefyllfa yn un "anodd iawn i lawer o bobl".

"Yn bersonol, mae mynd i Qatar yn bwysig. Yn amlwg dwi eisiau mwynhau Cwpan y Byd. Dwi eisiau mwynhau Cymru yng Nghwpan y Byd.

"Ond mae'n bwysig bod yn weledol i'r sefyllfa," ychwanegodd.

"Gallwn ni ddadlau p'un ai y dylai neu na ddylai [y twrnament] gael ei gynnal yn Qatar. A ddylai FIFA fod wedi caniatâu iddo ddigwydd? Mae honno'n drafodaeth i'w chael.

"Ond yna gyda'r wleidyddiaeth o amgylch credoau Qatar a'u ffordd o fyw - mae honno'n drafodaeth arall i'w chael..."

"Y realiti yw bod llawer o wledydd o amgylch y byd... sy'n credu'r un peth a nid dim ond pan mae'n dod i LHDTC. Mae'n rhaid i chi edrych ar y ddwy sefyllfa yn wahanol iawn.

"Dydyn nhw [Qatar] ddim yn mynd i newid eu ffordd dim ond gan mai Cwpan y Byd yw hwn... ond mae eu ffyrdd a'u credoau yn cael eu cwestiynu o amgylch y byd."