Pedwar rysait rhad i'ch cynhesu gaeaf yma

  • Cyhoeddwyd
Sglodion ag ŵyFfynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Sglodion ag ŵy o'r popty

Mae'r gaeaf wedi cyrraedd ac mae costau bwyd ar gynnydd felly dyma restr cyflym o ryseitiau rhad a syml i'ch cysuro.

Mae'r awdur Rhian Cadwaladr yn hen law ar goginio yn y cartref ac wedi rhyddhau llyfr ryseitiau 'Casa Cadwaladr' yn ddiweddar. Gyda'r esgid yn gwasgu a'r gwynt yn fain, dyma ambell rysait i wneud pethau ychydig yn haws.

Lobsgows

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Lobsgows

Mae'n werth edrych yn ôl ar ryseitiau'r gorffennol i ddarganfod ffyrdd o wneud bwyd rhad a dyma i chi un sydd wedi goroesi'r blynyddoedd - lobsgows, neu cawl yn y de.

Mae hwn yn gwneud digon i chwech efo rhywfaint dros ben at y diwrnod canlynol pan fydd o'n neisiach fyth!

Cynhwysion:

• 500g cig eidion wedi ei dorri'n gwibiau

• 3 taten fawr

• 1 nionyn

• 1 cennin

• 2 foronen

• 2 banas

• 1 rwdan fach

• Perlysiau ffresh neu sych e.e. deilen lawryf (bay leaf) teim, parsli, rosmari

• Halen a pupur

Dull:

1. Rhowch y cig mewn sosban fawr a'i orchuddio efo dŵr

2. Codwch i'r berw. Wrth i chi wneud hyn fe welwch lysnafedd (scum) yn berwi i'r wyneb, tynnwch o efo llwy dyllog

3. Tra mae'r cig yn codi i'r berw darparwch y llysiau - pliciwch a thorrwch y moron, panas a'r rwdan yn ddarnau tua yr un maint

4. Torrwch y nionun yn fân a golchwch a sleisiwch y cennin

5. Pliciwch y tatws a'u torri yn ddarnau o leiaf ddwy waith maint gweddill y llysiau

6. Rhowch y llysia, perlysia yn y sosban efo chydig mwy o ddwr i'w gorchuddio

7. Trowch y gwres i lawr a'i fudferwi am rhyw ddwy awr i ddwy awr a hanner nes fod y cig yn frau

8. Blaswch ac ychwanegwch halen a phupur at eich dant

Carbonara efo madarach a/neu ham

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Carbonara

Os am bryd rhad sydd yn eich llenwi chewch chi fawr ddim rhatach na pasta. Dyma rysait y medrwch chi addasu i beth sydd ganddoch chi - er engraifft, defnyddiwch fadarch yn lle ham.

Digon i 4.

Cynhwysion:

• Ychydig o fenyn i ffrîo garlleg

• 2 dafell o ham

• 2-3 clôf garlleg wedi dorri'n fân

• 400g pasta - spagehetti/ linguini neu tagliatelle

• 3 ŵy

• Halen a phupur

• Llond dwrn o gaws parmesan wedi gratio yn fân

Dull:

• Rhowch y pasta mewn sosban o ddŵr berw ar y stôf. Edrychwch ar y paced i weld faint yn union mae o angen i goginio

• Towddwch y menyn mewn padell ffrîo a ffrîwch y madarch a'r garlleg ynddo

• Tra mae popeth arall yn coginio rhowch yr wyau mewn jwg a'u curo'n dda. Ychwanegwch hanner y caws parmesan i'r jwg

• Pan mae'r spaghetti a'r madarch yn barod gwagiwch y dŵr o'r spaghetti gan gadw rhyw lond llwy fwrdd ar ôl

• Rhowch y madarch, ham a'r wyau/caws ar ei ben a'u cymysgu'n dda. Mi fydd gwres y spaghetti yn coginio'r ŵy ond peidiwch a'i roi yn ôl ar y stôf neu mi gewch ŵy wedi sgramblo

• Ychwanegwch ddigon o bupur du - a halen os oes angen

• Rhowch mewn powleni efo gweddil y parmesan wedi ei daenu drosto

Sglodion ag ŵy yn y popdy

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Sglodion ag ŵy o'r popty

Mae olew wedi mynd i fyny yn eithriadol yn ei bris yn ddiweddar ac mae angen cryn dipyn ohono i wneud chips. Dyma i chi ffordd rhatach sydd hefyd yn golygu llai o olchi llestri!

Digon i ddau.

Cynhwysion:

• 2 daten fawr

• 4 tomato

• 2 ŵy

• 2 fadarch mawr

• Ychydig o olew

• Dail teim os oes ganddo chi beth

• Halen a phupur du

Dull:

1. Rhowch y popdy ymlaen ar 180c ffan

2. Pliciwch y tatws a'u torri yn sglodion. Rhinsiwch mewn dŵr oer a'u sychu mewn lliain glan

3. Rhowch y tatws mewn tun rhostio mawr. Ni ddyliai'r tatws lewni'r tun

4. Gwasgarwch ddail teim dros y tatws

5. Tywalltwch ychydig o olew drostynt a'u trochi yn dda a'u rhoi yn y popdy am ddeg munud

6. Tynnwch y tun o'r popdy, rhoi ysgwytwad iddyn nhw ac yna gosod y tomatos a'r madarch yn eu plith gan daenu ychydig olew drostynt hwythau

7. Coginiwch nhw am rhyw hanner awr arall a pan eu bod yn edrych ddim ymhell o fod yn barod tynnwch y tun o'r popdy

8. Gwthiwch gynnwys y tun o'r neilltu i wneud lle i fedru gollwng dau ŵy yn eu canol

9. Torrwch yr ŵy i gwpan gyntaf a'u gollwng yn ofalus i'r tun

10. Rhowch y tun yn ôl yn y popdy am rhwy 8 munud arall nes fod y gwynwy wedi setio

11. Tasgwch halen cras a pupur du dros y cyfan

Kedgeree eog

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Kedgeree eog

Dyma i chi ffordd o wneud i ychydig o eog fynd ymhell.

Digon i 2.

Cynhwysion:

• 1 darn o eog

• 1 lemwn

• 125g o reis basmati

• 3 ŵy wedi ei ferwi

• 1 nionun bach wedi ei falu'n fân

• Lwmpyn o fenyn i ffrïo

• 1 llond llwy fwrdd o bowdwr cyri

• 1/4 llwy o bowdwr turmeric

• Llond dwrn o swltanas

• Halen a pupur

• Coriander wedi ei falu'n fân os oes ganddoch chi beth

Dull:

1. Rhowch y popdy ymlaen ar 200c /180c ffan/ nwy 6

2. Tynnwch groen yr eog a rhowch o mewn tun rhostio

3. Torrwch y lemwn yn ei hanner ar ei hyd a gwasgwch sudd un hanner dros yr eog

4. Rhowch haenen o ffoil dros y tun a'i bobi am oddeutu 14 munud nes ei fod yn barod

5. Rhowch y reis i ferwi yn ôl y canllawiau ar y paced

6. Berwch y wyau am ddeg munud

7. Tra mae'r wyau yn berwi toddwch y menyn mewn padell fawr a ffriwch y nionun ar wres isel

8. Cymysgwch y powdwr cyri a'r turmeric i fewn i'r nionun ac ychwanegu y reis wedi goginio

9. Torrwch un ŵy yn fân a sleisiwch y llall yn chwarteri

10. Torrwch yr eog yn haenau a'i ychwanegu i'r reis efo'r swltanas, yr ŵy sydd wedi ei falu'n fân a'r coriander

11. Ychwanegwch halen a pupur at eich dant a gosod gweddill yr wŷ a'r hanner lemwn (wedi ei dorri'n ddau ddarn)

Pynciau cysylltiedig