Y byd ar blât mewn llyfr ryseitiau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Addysgu pobl am y bwyd a'r diwylliannau gwahanol sydd gan Gymru i'w gynnig ydi bwriad dynes o Benygroes gyda'i llyfr ryseitiau newydd.
Mae Maggie Ogunbanwo yn wreiddiol o Nigeria, ond wedi byw yng Nghymru ers 13 o flynyddoedd.
Yn ei llyfr, The Melting Pot, mae yna ryseitiau gan bobl o wahanol wledydd ledled y byd sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru. Gobaith Maggie yw y bydd y llyfr yn dangos amrywiaeth Cymru ar ei orau.
"Dwi wedi cael lot o gynhyrchwyr bwyd yn dod ata i pan dwi'n y sioeau bwyd mawr 'ma yn gofyn ble mae fy stondin, ac maen nhw'n synnu pan dwi'n pwyntio at un Cymru. Person o Affrica ar stondin Cymru? Ia - mae amrywiaeth yng Nghymru hefyd!"
Dyna mae Maggie eisiau ei brofi gyda'r ryseitiau mae hi wedi eu casglu at ei gilydd. Mae ei llyfr newydd yn cynnwys ryseitiau o Barbados, Colombia, Syria, Jamaica, Yr Eidal, Bangladesh a mwy, yn ogystal â ryseitiau Nigeraidd traddodiadol o gegin teulu Maggie ei hun.
Ei chred yw fod bwyd yn gallu uno diwylliannau, a'n bod ni'n gallu dysgu am bobl drwy fwydydd eu cymunedau a'u gwledydd.
"Un o'r pethau dwi'n ei weld," meddai Maggie, "ydi pan wyt ti'n eistedd i lawr a rhannu pryd o fwyd efo rhywun, ti'n dechrau agor i fyny a chyfathrebu. Dod i 'nabod y diwylliant a dod i 'nabod y bobl. Mae rhai o'r straeon yn y llyfr yn eich helpu chi i ddeall y bobl a'r diwylliant, yn ogystal â deall bwyd."
Dyna pam aeth ati i gasglu ryseitiau i greu llyfr coginio, meddai, er mwyn addysgu pobl am yr holl ddiwylliannau amrywiol sydd gan Gymru i'w gynnig.
Dysgu ac addysgu
A hithau wedi gweithio yn y diwydiant bwyd a lletygarwch ers degawdau, yn rhedeg ei busnes ei hun yn creu sawsiau a sbeisys Affricanaidd ac yn aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, mae Maggie yn amlwg yn wybodus iawn am fwyd.
Ond mae hi'n cyfaddef i'r broses o gasglu'r ryseitiau a rhoi'r llyfr at ei gilydd fod yn addysgiadol iddi hithau hefyd, wrth iddi ddysgu mwy am fwydydd diwylliannau eraill.
"Dwi'n hoffi'r amrywiaeth dwi wedi ei ffeindio, a mod i wedi dysgu am gynhwysion newydd. Roedd hi'n brofiad da i mi gael ehangu fy ngwybodaeth am fwyd.
"Un o'r ryseitiau cyntaf ydi cawl ajiaco figan - pam mod i ddim wedi gwybod am hwn fy holl fywyd?! A rysáit arall, macher jhol - roedd o'n cymryd dipyn i'w wneud ond oedd o mor flasus."
Ryseitiau newydd, cynhwysion cyfarwydd
Ynghyd ag addysgu am wahanol fathau o fwydydd, mae Maggie hefyd eisiau cael gwared ar gamsyniadau sydd gan rai pobl am fwydydd cymunedau eraill o fewn Cymru.
"Pan nes i ddod i Benygroes gynta," cofia Maggie, "ac efo stondin yn y farchnad ffermwyr - Maggie's Exotic Foods - roedd pobl yn heidio i'r stondin ond ddim yn prynu dim. Meddai rhywun yn y diwedd 'bwyd normal ydi o, o'ddan ni'n meddal mai bwyd 'exotic' fyddai pryfaid neu rywbeth'.
"Dwi'n chwerthin... ond mae yna angen addysgu."
Fel mae Maggie yn ei egluro, nid coginio gyda sbeisys yw'r ffordd 'draddodiadol' o goginio yng Nghymru, ond ei gobaith yw y bydd y llyfr yma yn profi fod bwydydd o ddiwylliannau eraill o fewn cyrraedd pawb. Yn ei hanfod, meddai, dydi'r ryseitiau ddim mor wahanol â hynny, ac nid yw'r cynhwysion yn ddieithr chwaith.
"Mae'n wych sut mae cymunedau neu wledydd gwahanol yn defnyddio'r un cynhwysion mewn ffyrdd gwahanol. Mae un rysáit [yn y llyfr] yn defnyddio meipen (turnip), a dwi'n meddwl fod llawer yn peidio'i ddefnyddio achos bod nhw ddim yn siŵr beth i'w wneud efo fo - felly mae o'n ffordd dda i'w ddefnyddio.
"Mae llawer o'r cynhwysion yn rhai ffres, sydd yn gyffredin iawn mewn cymunedau amrywiol, a gallwch gael llawer o'r cynhwysion yna mewn marchnad neu deli lleol.
"Does yna ddim byd yn rhy anodd i gael gafael arno fo, heblaw am ella ambell i sbeis, ac yn ffodus, mae gennyn ni'r we ar gyfer hynny!"
Rysáit Reis Jollof Cyw Iâr Sydyn
Meddai Maggie: "Dwi'n meddwl fod reis jollof yn lle da i ddechrau. Mae'n ddefod yng ngorllewin Affrica, ac mae'n siŵr mai dyma bryd cenedlaethol Nigeria. Dydi'r un dathliad yn gyflawn heb rhyw fersiwn o jollof. Gallwch wneud y pryd yma heb gig ar gyfer fersiwn figan - ychwanegwch eich hoff lysiau."
Bwydo: 4-5. Amser paratoi: 10 munud. Amser coginio: 50 munud.
Cynhwysion
450g reis hir
4-8 darn o gyw iâr
2 lwy de unrhyw sbeis cyw iâr
225g tomatos cyflawn
50g piwrî tomato
110g nionod canolig
650-850ml stoc cyw iâr
1 pupur coch
2 lwy de halen, i weddu eich blas
2 lwy de bowdr cyri
1 llwy de pupur du
1 llwy fwrdd cimwch yr afon (crayfish) mâl neu saws pysgod
2 lwy fwrdd olew llysiau
Dull
Cymysgwch y nionod, tomatos a'r pupur coch mewn prosesydd bwyd neu blender gyda pheth o'r stoc i helpu'r broses, a'i roi i un ochr.
Mewn powlen, ychwanegwch y cyw iâr a'r sbeis cyw iâr a'u cymysgu'n dda
Rhowch yr olew llysiau mewn sosban fawr a'i gynhesu ar wres uchel am 2-3 munud. Ychwanegwch y cyw iâr, heb fod y darnau ar ben ei gilydd, a'u brownio yn yr olew poeth am tua 2-3 munud bob ochr.
I'r sosban, ychwanegwch y cynhwysion o'r prosesydd bwyd, y piwrî tomato a digon o stoc i orchuddio'r cyw iâr a'r cynhwysion eraill, ei gymysgu'n dda a'i godi i'r berw (am 10 munud).
Golchwch y reis gan newid y dŵr nifer o weithiau, neu ddilyn cyfarwyddiadau'r pecyn, a'i ddraenio mewn colander.
Ychwanegwch y reis a'r powdr cyri i'r sosban, ei gymysgu a'i ferwi. Trowch y gwres i isel, rhoi caead ar y sosban a'i adael i fudferwi.
Coginiwch am 40 munud arall nes fod y reis yn feddal, gan ei gymysgu'n achlysurol ac ychwanegu mwy o stoc fel bod angen. I orffen, ychwanegwch y cimwch yr afon mâl neu saws pysgod, a'r halen os oes angen, a'i gymysgu'n dda.
Dylai'r pryd reis yma fod yn sych, gyda'r reis yn feddal, ac yn lliw oren, fel jollof traddodiadol.
Gadewch iddo fudferwi am 2 funud, ei dynnu o'r gwres a'i weini yn gynnes gyda plantain wedi ffrio a llysiau cymysg.
Rysáit Cawl Ajiaco Figan
Dyma gawl gaeaf figan o Colombia gan Isabelle o Women Connect First. Meddai, "Nes i ddysgu'r rysáit gan fy nhad-yng-nghyfraith, sydd yn gogydd wedi ymddeol, achos ei fod o'n fy atgoffa fi o adref a'r aduniadau teuluol yno. Y guascas, y perlysieuyn o Colombia, sy'n rhoi'r blas i'r cawl. Mae'n anoddach dod o hyd iddo yn y DU, ond gallwch ddefnyddio dil yn lle - mae gweddill y cynhwysion ar gael yn y rhan fwyaf o farchnadoedd."
Bwydo: 4. Amser paratoi: 15 munud. Amser coginio 45-55 munud.
Cynhwysion
2 lwy fwrdd olew olewydd
1 nionyn
3-4 ewin garlleg, wedi eu gwasgu
2 foronen fawr, wedi eu plicio a'u sleisio
800g stoc llysiau
2 ddeilen llawryf (bay)
3g guascas sych (quickweed), gyda'r coesau wedi eu tynnu
2 daten bôb canolig
3 taten goch ganolig, mewn tameidiau bach
400g tatws melys neu datws newydd canolig, mewn tameidiau bach
1 llwy de halen môr
Pupur mâl
2 gorn ar y cobyn, wedi eu torri mewn traeanau neu chwarteri
3 sibols (spring onion), mewn sleisys
2 lwy fwrdd coriander ffres, wedi ei falu
Sudd leim ffres
Hufen sur figan
½ cwpanaid caprys (capers)
2 afocado, wedi eu plicio a'u sleisio
Dull
Mewn sosban gawl fawr, cynheswch yr olew dros wres canolig gyda phinsiad o halen. Ychwanegwch y nionyn a ffrio (sauté) am 3-4 munud.
Ychwanegwch y garlleg a'r moron a'i ffrio am 2-3 munud.
Cynyddwch y gwres ac ychwanegu'r stoc llysiau, tatws coch, tatws pob, guascas, dail llawryf, halen a phupur. Pan mae'r cawl yn dechrau berwi, trowch y gwres i canolig-isel a gadael iddo fudferwi gyda'r caead ar y sosban. Coginiwch am tua 20-30 munud, nes fod y tatws yn dechrau chwalu. Gan ddefnyddio fforc, gwasgwch beth o'r tatws yn erbyn ochr y sosban er mwyn tewhau'r cawl.
Nawr ychwanegwch y tatws melys neu newydd, corn, sibols a'r coriander. Mudferwch am 15-20 munud nes fod y tatws yn dyner a'r corn wedi ei goginio. Gallwch wasgu mwy o datws os hoffech chi. Blaswch i weld os oes angen mwy o halen a phupur. Tynnwch y dail llawryf allan.
Tynnwch y sosban o'r gwres, ychwanegwch sudd lemwn, a'i weini'n gynnes, gyda hufen sur, caprys a sleisys o afocado.
Hefyd o ddiddordeb: