Y Bencampwriaeth: Birmingham 2-2 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Troy DeeneyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Troy Deeney oedd arwr Birmingham nos Fawrth

Methiant oedd ymdrech yr Elyrch i adael St Andrews gyda thriphwynt diolch i gôl hwyr Troy Deeney.

Birmingham sgoriodd gyntaf wedi 12 munud wrth i beniad Scott Hogan guro Steven Benda.

Roedd hi'n ymddangos fod tîm Russell Martin wedi gwneud digon i ennill y gêm diolch i goliau gan Olivier Ntcham a Matt Grimes yn hwyrach yn yr hanner.

Ond er mawr siom cefnogwyr yr Elyrch oedd wedi gwneud y daith i ganolbarth Lloegr, roedd gôl arall i ddod gydag ond munud o'r gêm yn weddill.

Diolch i Troy Deeney ddoth hwnnw, gyda chyn-ymosodwr Watford yn achub pwynt i'w dîm o gic cornel.

Serch hynny, roedd y pwynt yn ddigon i sicrhau fod Abertawe yn codi i'r wythfed safle yn y tabl.