Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-3 Hull City

  • Cyhoeddwyd
Regan SlaterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Regan Slater i rwydo ddwyaith yn yr ail hanner

Regan Slater oedd arwr Hull wrth iddynt ddod yn ôl i sicrhau'r triphwynt yn ne Cymru.

Daeth y gôl gyntaf yn fuan yn y gêm gyda Dimitrios Pelkas yn cyfeirio croesiad Jacob Greaves i'r rhwyd gydag ond pedwar munud ar y cloc.

Ond roedd Caerdydd yn gyfartal yn fuan yn yr ail hanner wedi i Callum Robinson wneud y gorau o gamgymeriad golwr Hull, Nathan Baxter.

Roedd tîm y brifddinas ar y blaen wedi 62 munud gyda Robinson yn creu y tro hwn, gan alluogi Gavin Whyte i rwydo.

Ond nid hynny oedd diwedd y sgorio gyda Slater yn manteisio ddwywaith - wedi 75 a 77 munud - i droi'r gêm ar ei phen ar noson siomedig i'r Adar Gleision.