Plant Llundain yn canu Yma o Hyd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Disgyblion blwyddyn 4 Ysgol Gynradd Griffin, Llundain, yn canu Yma o Hyd

Mae athro o Gaernarfon wedi dysgu'r gân Yma o Hyd i'w ddisgyblion ysgol yn Llundain.

Clywodd Michael Downey, sy'n athro yn Ysgol Gynradd Griffin yn ardal Wandsworth, bod yr Urdd yn cynnal Jambori Cwpan y Byd ar 10 Tachwedd ac roedd yn awyddus i blant ei ysgol ddysgu Yma o Hyd mewn pryd.

Eglura: "Mae rhai o ffrindiau fi sy'n athrawon, un yn Nolgellau a'r llall yn Tregarth - nathon nhw yrru linc i fi am Jambori yr Urdd a nes i feddwl, o Duw, mae'r plant yn lle dwi'n dysgu yn ddigon tebol i gymryd rhan - maen nhw fel sponges bach.

"Roedd y sesiwn gynta' yn ofnadwy o anodd so nes i sgwennu'r geiriau mewn ffordd ffonetig iddyn nhw ac erbyn yr ail a'r trydydd sesiwn, oeddan nhw yn ymarfer Yma o Hyd reit hawdd!"

Magu perthynas gydag Ysgol Gymraeg Llundain

Ar ôl wythnosau o ymarfer cân Dafydd Iwan sydd wedi troi'n anthem bêl-droed i dîm Cymru a'r Wal Goch, bydd disgyblion blwyddyn 4 Ysgol Gynradd Griffin yn mynd i Ysgol Gymraeg Llundain i gyd-ganu a recordio'r gân ar ddiwrnod y Jambori.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Gymraeg Llundain/Ysgol Gynradd Griffin
Disgrifiad o’r llun,

Logo Ysgol Gymraeg Llundain (chwith) a logo Ysgol Gynradd Griffin (dde)

Meddai Michael: "'Dan ni'n mynd draw i Ysgol Gymraeg Llundain yn Hanwell heddiw. Nes i gysylltu efo nhw tua tair wythnos yn ôl yn gofyn os oeddan nhw isio ymarfar efo ni. Nes i siarad efo'r pennaeth wythnos dwytha a nathon nhw ddod yma efo'r athrawes gerdd - nathon nhw ymarfer Yma o Hyd a chaneuon eraill a nathon ni gael sesiwn rygbi tag efo nhw wedyn.

"Oedd o'n lyfli jest gweld y plant yn cymysgu efo'i gilydd. Nathon ni benderfynu wedyn bo' nhw yn gwahodd ni nôl i'w ysgol nhw ar y diwrnod ei hun a'n bod ni am ganu a recordio'r ddwy ysgol yn canu efo'i gilydd."

'Balch bo' nhw yn canu fel Cofis bach neu Gogs, ia!'

Mae Ysgol Gynradd Griffin, sydd tua milltir o Afon Tafwys, yn ysgol amlieithog ac amlethnig ond Michael yw'r unig un yn yr ysgol sydd â chysylltiad agos â Chymru.

Meddai: "Mae 'na tua 40 o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad gan blant yr ysgol. Digwydd bod, flwyddyn dwytha o'n i'n dysgu hogyn bach o'r enw Dylan ac oedd o 'di mynd adra a deud wrth ei fam bo' fi'n dod o Gymru a neshi siarad efo'i fam - yn wreiddiol oedd yr hen nain yn dod o Borthmadog, ond heblaw am hynna - dyna ydi'r unig gysylltiad i Gymru sgynnon ni."

Ffynhonnell y llun, Michael Downey
Disgrifiad o’r llun,

Michael yn ei ddosbarth tra'n dysgu yn Ysgol Gymraeg y Gaiman

Mae Michael, sydd hefyd wedi bod yn athro yn Ysgol Gymraeg y Gaiman ym Mhatagonia, yn angerddol am bontio ac addysgu am ddiwylliannau gwahanol yn ei wersi. Testun balchder iddo wrth ddysgu Yma o Hyd i'r plant yw gweld pa mor dda maent yn ynganu, a bod dylanwad ei acen yntau arnyn nhw.

Meddai: "Maen nhw'n cael hwyl dda arni. O'n i'n synnu pa mor Gymreig maen nhw'n swnio ond o'n i'n fwy balch bo nhw yn canu fel Cofis bach neu fel Gogs, ia!"

Jambori Cwpan y Byd Urdd Gobaith Cymru

Nid dim ond plant Ysgol Gynradd Griffin ac Ysgol Gymraeg Llundain fydd yn canu 'Yma o Hyd' ar ddydd Iau, 10 Tachwedd.

Bydd dros 230,300 o blant yn dod at ei gilydd yn ddigidol ar gyfer y Jambori, i ganu rhai o'r hen ffefrynnau yn ogystal â chaneuon newydd Cwpan y Byd. Yn ystod y digwyddiad bydd negeseuon fideo gan Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a rhai o chwaraewyr tîm pêl-droed Cymru i ddiolch i'r plant am eu cefnogaeth.

Meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: "Mae'r Urdd wedi cael ei syfrdanu gan ymateb cadarnhaol ysgolion cynradd ym mhob rhan o'r wlad i Jambori Cwpan y Byd. Roedden ni o hyd wedi meddwl cynnal Jambori canmlwyddiant yn yr hydref a pharhau â'r dathlu hyd ddiwedd blwyddyn y cant. Drwy anelu'n uchel a chefnogi'r tîm cenedlaethol, rydyn ni'n dod â 230,372 o blant o bob rhan o'r wlad at ei gilydd i roi'r hwb haeddiannol i dîm Cymru!

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Iwan a thîm pêl-droed Cymru

"Mae'n hollbwysig i'r Urdd bod pob plentyn yn cael cyfle i ymuno yn Jambori Cwpan y Byd. Roedd rhaid i'r Jambori fod yn groesawgar a hygyrch i bawb, dyna pam mae'r Urdd wedi darparu geiriau Saesneg yn ogystal â fersiynau ffonetig ar ein gwefan er mwyn i ddysgwyr a'r di-Gymraeg gael ymuno yn yr hwyl. Mae'n wych gweld bod dros 600 o ysgolion cynradd sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith wedi derbyn ein gwahoddiad i ymuno hefo ni."

Bydd y Jambori yn gorffen gydag ymddangosiad arbennig gan Dafydd Iwan wrth i blant o bob cwr o'r wlad ymuno â'r canwr o fri i ganu anthem Cwpan y Byd Cymru, Yma o Hyd.

Hefyd o ddiddordeb: