Y Gynghrair Genedlaethol: Scunthorpe 1-3 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Paul Mullin yn grewr ac yn sgoriwr nos Fercher

Mae Wrecsam ar frig y tabl wedi iddynt fanteisio ar Notts County ond yn sicrhau pwynt yn Southend nos Fawrth.

Aeth y Dreigiau ar y blaen yn Scunthorpe diolch i Ollie Palmer, gyda chyn-ymosodwr AFC Wimbledon yn rhwydo wedi dilyn gwaith da gan Paul Mullin ar yr asgell.

Bu ond y dim i'r Dreigiau ddyblu eu mantais yn fuan wedyn, ond llwyddodd Mason O'Malley i rwystro ymdrech Jordan Tunnicliffe ar y llinell gôl.

Ond doedd ddim rhaid aros yn hir ar gyfer ail gôl Wrecsam, gyda'r amddiffynnwr Aaron Hayden yn parhau gyda'i rediad sgorio anhygoel diweddar gan benio wedi 33 munud.

Dod yn ôl wnaeth y tim cartref, serch hynny, gyda Jai Rowe yn darganfod gefn y rhwyd gydag ond tri munud yn weddill o'r hanner.

Ond parhau i greu wnaeth tîm Phil Parkinson, gyda Mullin yn troi o fod yn grewr i fod yn sgoriwr y tro hyn drwy rhwydo'i 13eg gôl gynghyrair.