Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Sheffield United

  • Cyhoeddwyd
Mark Harris yn ergydio yn erbyn Sheffield UnitedFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mark Harris yn ergydio yn erbyn Sheffield United

Colli ar eu tomen eu hunain o gôl i ddim oedd hanes Caerdydd yn erbyn y tîm sydd ar frig y Bencampwriaeth am y tro o ganlyniad.

Daeth unig gôl y gêm wedi 64 munud o chwarae, diolch i ergyd George Baldock

Methu unwaith yn rhagor wnaeth yr Adar Gleision i sicrhau bod cyfleoedd yn troi'n goliau, er gwaethaf ymdrechion addawol.

Roedd yna dri o fewn pum munud hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf gan Mark Harris, Ryan Wintle a Callum Robinson.

Ond mae'r problemau hynny o flaen y gô, a'r methiant i sicrhau pwynt o gwbl, yn golygu bod Caerdydd yn 19fed safle'r tabl gyda 24 o bwyntiau.