Y Gynghrair Genedlaethol: Wealdstone 0-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Y Gynghrair GenedlaetholFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam wedi llithro o frig y Gynghrair Genedlaethol wedi gêm ddi-sgôr oddi cartref yn erbyn Wealdstone.

Arbedion campus y golwr Sam Howes oedd yn bennaf gyfrifol am atal yr ymwelwyr rhag rhwydo.

Yr arbediad gorau oedd pan fu'n rhaid ymateb yn gyflym wedi i ergydiad ymosodwr Wrecsam Elliot Lee wyro tuag ato.

Notts County sydd ar y brig erbyn hyn wedi iddyn nhw drechu Eastleigh 2-0 oddi cartref, gydag un pwynt yn fwy na Wrecsam (43) yn yr ail safle.