Cludo tri i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad bws a char

  • Cyhoeddwyd
Safle'r gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr A487 yn ardal Bow Street ar gau am gyfnod wedi'r gwrthdrawiad

Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi cadarnhau mai tri pherson gafodd eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bws a char yng Ngheredigion.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A487 rhwng Bow Street ac Aberystwyth tua 15:45 brynhawn Sadwrn.

Cafodd tua 15 o deithwyr eu trin yn y fan a'r lle gan barafeddygon.

Dywedodd Margarita Barnes, oedd yn teithio ar y bws gyda'i phlant, eu bod wedi cael eu cludo i'r ysbyty rhag ofn ond nid oedden nhw wedi cael anafiadau difrifol.

Disgrifiodd Ms Barnes, sy'n disgwyl plentyn arall mewn pedwar mis, sut y cafodd teithwyr, yn cynnwys teuluoedd eraill a phobl oedrannus, eu taflu ymlaen yn sgil impact y gwrthdrawiad a ddinistriodd pen blaen y cerbyd.

"Roedd yn ofnadwy," dywedodd.

"Roedd yr un fach gen i, ro'n i'n gafael arni ac roedd y grym mor nerthol nes iddi fflio o 'mreichiau.

'Cleisiau'

"Fe daflwyd fy mhlentyn hynaf, a phobl eraill, i flaen y bws."

Dywedodd Ms Barnes bod y plant - un yn wyth oed a'r llall yn ddyflwydd oed - wedi cael "ambell i gnoc a chleisiau" ond bod hi ei hun a'i babi yn y groth yn iawn.

Ychwanegodd ei bod yn dymuno diolch i'r teithwyr eraill am helpu i lonyddu ei phlant, ac i'r gwasanaethau brys.

Mae BBC Cymru wedi gofyn wrth Heddlu Dyfed-Powys am sylw.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon tri ambiwlans a cherbyd ymateb cyflym i safle'r gwrthdrawiad, cyn cludo tri chlaf i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, am ragor o driniaeth.