Sut mae creu system fwyd gynaliadwy yng Nghymru?
- Cyhoeddwyd
Mae materion amgylcheddol yn y penawdau yn gyson y dyddiau 'ma, gyda chynhadledd COP27 y Cenhedloedd Unedig yn cael ei chynnal yn Yr Aifft ar hyn o bryd.
Ond beth yw rôl Cymru yn hyn i gyd? Yma mae dau berson ifanc o Gymru'n rhannu eu meddyliau ar y system fwyd yng Nghymru i genedlaethau'r dyfodol.
Mae Poppy Stowell-Evans yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Llanwern, Casnewydd, ac ar hyn o bryd mae'n astudio ym Mhrifysgol Yale. Mae Caryl Jones yn ffermio defaid yn ardal Llanddewibrefi, Ceredigion.
Mae Poppy yn ffeminist selog ac yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi hefyd yn actifydd newid hinsawdd brwd ac yn ei hystyried ei hun yn rhyng-genedlaetholwr, gan gredu y dylai gwledydd weithio gyda'i gilydd lle bo hynny'n fuddiol. Dyma ei gweledigaeth hi:
Y flwyddyn 2080 yw hi. Mae'r blaned yn llosgi. Mae ein trefn gymdeithasol wedi chwalu'n deilchion. Mae'r byd yn debyg i olygfa o'r Lorax lle na allwn ni fel bodau dynol anadlu ond trwy gynwysyddion ocsigen y talwyd amdanynt ac a gafodd eu cludo dros y môr. A pham?
'Mae'r cyfan yn y bôn oherwydd y ffaith y gwnaethoch chi fwyta byrger cig eidion yn 2022. Mae oherwydd y dewisoch chi beidio â bod yn figan a chefnogi dewisiadau bwyd amgen cwbl gynaliadwy…' ac mae hynny'n rhywbeth na fyddwn i byth yn ei ddweud oherwydd rwy'n credu bod y berthynas rhwng y system fwyd yma yng Nghymru a newid hinsawdd yn fwy cymhleth o lawer na'r hyn gawsom ni i ginio heddiw.
Yn hytrach, rwy'n credu ei fod yn drafodaeth ynghylch cyfiawnder cymdeithasol, dosbarth, cynnydd, a bywoliaeth sy'n troi o gwmpas bygythiad cynyddol newid hinsawdd.
Cefais fy nghyflwyno i fater cynaliadwyedd bwyd yng Nghymru am y tro cyntaf yn COP26 lle cefais y fraint o gynrychioli Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru a chwrdd ag arweinwyr grŵp o bobl gynhenid o Periw o'r enw Cenedl y Wampis.
Effaith datgoedwigo
Drwy'r profiad hwn, am y tro cyntaf, wnes i ddeall yn wirioneddol beth yw effaith ein dewisiadau ni yma yng Nghymru wrth imi ddysgu am eu trafferthion wrth frwydro nid yn unig dros hawliau o ran hunanlywodraeth ond eu huchelgais i warchod y blaned drwy warchod eu tir.
Fodd bynnag, oherwydd datgoedwigo, y dylanwadir arno gan ddefnydd Cymru o fewnforion fel soi a ddefnyddir fel bwyd anifeiliaid mewn diwydiannau ffermio a chynhyrchion bwyd fel cig eidion wedi'i fewnforio, roedd y trafferthion hyn yn mynd yn waeth ac yn waeth.
Agorodd Cenedl y Wampis fy llygaid i'r ffordd y gall y bwyd ar fy mhlât fod yn rhan o system sydd nid yn unig yn parhau'r argyfwng hinsawdd ond hefyd yn gormesu cymuned gyfan o bobl. Daeth yn amlwg bod angen newid y ffordd rydym yn cynhyrchu bwyd a'i dibyniaeth ar ddatgoedwigo.
Fodd bynnag, er mwyn cyfrannu at y drafodaeth ynghylch sut olwg fyddai ar system fwyd gynaliadwy a sut y gallwn ei sicrhau, rhaid inni dderbyn bod ein system fwyd bresennol ni a'n ffordd o fyw bresennol yn anghynaliadwy. Wrth ddweud 'ni', rwy'n golygu nid yn unig yr actifyddion hinsawdd, rwy'n golygu'r ffermwyr, y gwerthwyr, a phob aelod o'n cymuned.
Gall hyn fod yn rhywbeth brawychus i'w ystyried oherwydd mae bwyd yn hanfodol i'r rhan fwyaf o'n bywydau os nad ein bywydau ni i gyd, ac mewn cyfnod o economi ansicr ac ymosodiadau yn erbyn pethau rydym yn eu hystyried yn sylfaenol i ddiogelwch gwleidyddol, mae bwyd yno o hyd yn rhywbeth cyson a chysurlon.
'Argyfwng hinsawdd'
Ond, yn y pen draw, rydym mewn argyfwng hinsawdd y mae angen ei ddeall fel realiti difäol a fydd ac sydd eisoes yn cael effaith ar bob un agwedd o'n bywydau, gan gynnwys yr hyn y gallwn ei fwyta a sut y gallwn ei gynhyrchu.
Mae'r IPCC wedi cyfeirio at dystiolaeth sy'n awgrymu, o fwy na 1,000 o ymchwiliadau byd-eang a rhanbarthol, y bydd cynnydd o un i ddau gradd selsiws yn y tymheredd byd-eang yn golygu colled o ran cynnyrch nifer o gnydau mewn amrywiaeth o ranbarthau. Gwelir canlyniadau difrifol o ran cyflenwad a diogelwch bwyd os bydd cynnydd o dri i bedwar gradd yn y tymheredd byd-eang yng Nghymru ac o gwmpas y byd, sy'n bwynt arwyddocaol.
Felly, beth allwn ni ei wneud? Yn fy marn i, y peth brawychus am newid hinsawdd yw bod pob un penderfyniad a wnawn ni fel unigolion yn gallu cael effaith negyddol ar y blaned. Ond, yn yr un modd, mae pob effaith a gawn yn gallu cael effaith gadarnhaol.
Er enghraifft, os yw o fewn eich gallu, bydd bwyta bwyd figan unwaith yr wythnos yn cael effaith gadarnhaol ar y blaned. Gallwch hefyd fod yn rhan o fudiad byd-eang sy'n newid y ffordd mae busnesau mawr a llywodraethau'n ymdrin â'r mater hwn trwy brofi iddynt beth sy'n bwysig i chi trwy eich arferion bwyta.
Cyfrifoldeb Llywodraeth
Fodd bynnag, mae angen pwysleisio bod rhaid i'n system fwyd gynnwys cynaliadwyedd a chyfiawnder cymdeithasol hefyd er mwyn i newid gwirioneddol ddigwydd. Ni ddylai dewis ffordd o fyw gynaliadwy fod ar gyfer yr elît yn unig. Rhaid mai'r opsiwn cynaliadwy yw'r opsiwn rhataf.
Felly, er bod cyfrifoldeb arnom ni fel unigolion i wneud y dewis cywir, cyfrifoldeb y Llywodraeth yw sicrhau mai'r dewis cywir yw'r dewis hawsaf a mwyaf cyfiawn, i brynwyr ac i ffermwyr. Mae cynaliadwyedd bwyd yn fater pwysig iawn ac felly dyletswydd y rhai sydd mewn grym, o Lywodraeth Cymru i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, yw gweithredu'n gyflym i sicrhau nad ydym yn mynd i gyfnod o ddinerthedd bwyd yng Nghymru ac i warchod y rhai, fel Cenedl y Wampis, sy'n brwydro am yr hawl i oroesi oherwydd ein dewisiadau a'n systemau bwyd ni.
Mae Caryl yn ffermio yn Llanddewibrefi, Ceredigion lle mae ganddi 40 o ddefaid. Mae hi hefyd yn ffermio ar fferm ei phartner sydd â 10 o wartheg godro. Mae hi'n gyn-gadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac ar hyn o bryd hi yw cadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi. Dyma sut hoffai hi weld pethau:
Yng Nghymru, mae gennym gyfle arbennig i ddangos safon uchel y bwyd a gynhyrchir yma, a'r potensial i arwain y ffordd i wledydd eraill. Gallwn yn barod olrhain taith ein cig o'r gât i'r plât - mae gan gig sy'n cael ei werthu'n lleol filltiroedd bwyd isel. Mae bod â system sy'n cefnogi hyn yn hollbwysig i symud ymlaen gyda dyfodol i ffermio yng Nghymru.
'System sy'n gweithio i bawb'
Mae'n bwysig iawn bod y system fwyd yn gweithio i bawb, ac yn ganolog i bopeth - ein diwylliant, ein heconomi, ein hiechyd a'n cymdeithas. Fel y soniwyd yn nogfen ddiweddar WWF Cymru (System Fwyd yng Nghymru sy'n Addas i Genedlaethau'r Dyfodol), mae'n bwysig i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth system fwyd ar gyfer Cymru gyfan. Gall y cynhyrchion hyn fod â photensial helaeth i groesawu pobl o bob rhan o'r byd i brofi ein bwyd, ein diodydd a'n lletygarwch.
Bydd cadw bwyd a gynhyrchir yng Nghymru i'w fwyta yma yng Nghymru yn cael effaith dda ar ein gwlad. Gyda phwyslais ar natur a system sy'n cefnogi bwydydd lleol, bydd lleihau ein milltiroedd bwyd yn edrych ar ôl yr hinsawdd ac yn cyfrannu at iechyd da, heb sôn am wneud yn siŵr y caiff cefn gwlad Cymru ei ffermio'n gynaliadwy gan bobl ifanc y dyfodol.
'Targed sero'
Mae chwarae rhan yn y targed sero net yn rhan bwysig o'r ddogfen ddrafft ddiweddar ynghylch system newydd o daliadau a fydd yn dod i Gymru. Mae angen mwy o drafodaethau ynghylch y system fwyd a hefyd am gymorth i bobl ifanc yn y sector amaeth a'r rhai sydd eisiau dod yn rhan o'r sector.
Mae'n bwysig iawn cael cydbwysedd rhwng edrych ar ôl natur a'r hyn mae ei angen i fwydo'r genedl. Nid yw mewnforio bwydydd yn gynaliadwy nac ychwaith yn dda i'r amgylchedd.
Mae angen llais amaethwyr ar y ddogfen er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn gweithio i bawb, nid dim ond i ffermwyr y presennol, ond i ffermwyr y dyfodol - ar hyn o bryd nid oes unrhyw bwyslais ar ffermwyr ifanc y dyfodol o gwbl. Mae'r Clybiau Ffermwyr Ifanc yng Nghymru yn gobeithio gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau amaethyddol i leisio barn ac angerdd y bobl ifanc er mwyn sicrhau dyfodol gwell.
Mae angen i'r system fwyd gynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru edrych ar ôl yr hyn rydym ni'n dda iawn am ei wneud, sef cynhyrchu bwyd o'r safon uchaf ynghyd ag edrych ar ôl ein byd naturiol a'i warchod at y dyfodol. Ond yn fwy pwysig na dim sicrhau bod 'na ddyfodol i ffermwyr ar ein tir o ddydd i ddydd.
Hefyd o ddiddordeb: