Llythyr i Taid: Byw'n gynaliadwy a gwarchod y blaned

  • Cyhoeddwyd
leisa
Disgrifiad o’r llun,

Sian Stacey a Jane Powell a Leisa

Mae Leisa Gwenllian yn wyneb cyfarwydd i lawer fel cymeriad Kylie ar Rownd a Rownd. Ond y dyddiau 'ma mae newid hinsawdd yn ei phoeni lawer mwy na chofio llinellau tra'n actio.

Fel llawer o bobl ifanc, mae Leisa yn poeni am yr amgylchedd ac yn awyddus i fyw yn fwy cynaliadwy a dysgu am ffyrdd o warchod y blaned.

Dros yr haf, yn ystod toriad y flwyddyn academaidd, aeth Leisa ar daith i gyfarfod rhai o'r bobl ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith arbennig i wella'r amgylchedd mewn dwy raglen arbennig i BBC Radio Cymru.

Mae Taid Leisa, Duncan Brown, yn naturiaethwr, a'r tro diwethaf i Leisa grwydro Cymru yn cyfarfod amgylcheddwyr eraill fe ysgrifennodd lythyr ati. Y tro hwn, Leisa sy'n ysgrifennu ato fo.

Annwyl Taid,

Wrth imi sgwennu hwn mae Rishi Sunak newydd gyhoeddi ei fod yn bwriadu mynd i COP27 wedi'r cwbl, ond dydi ei gyndynrwydd amlwg ddim yn llenwi rhywun efo ffydd ei fod am fynd yno efo brwdfrydedd ac awydd i gwffio dros ddyfodol ein planed. Tybed beth ydi barn ei blant o am ei benderfyniad gwreiddiol i beidio trafferthu mynd?

Mae fy nghenhedlaeth i wedi'n magu yn sŵn pryderon am newid hinsawdd ac mae pethau fel ailgylchu a pheidio gwastraffu yn ail natur inni. Dwi'n cofio caneuon ar raglenni Cyw am bwysigrwydd ailgylchu ac roedden ni wastad yn helpu yn yr ysgol gynradd ar ddydd Gwener i ddidoli gwastraff i'w ailgylchu.

Disgrifiad o’r llun,

Leisa yn cefnogi dull amgylcheddol o deithio, ar feic.

Mae pethau fel fast fashion yn cael eu trafod yn gyson ymhlith y genhedlaeth iau ac mae pobol ifanc yn dod i sylweddoli fwyfwy faint o ddillad sy'n diweddu eu hoes mewn tirlenwi ar ôl cael eu gwisgo unwaith neu ddwy.

Dwi'n falch o weld ailgylchu ac ail-ddefnyddio dillad yn cael ei normaleiddio - mae wedi dod yn dderbyniol ac yn cŵl i brynu mewn siopau elusen. Yn lle dwi'n byw yn ardal Rhydychen mae ffeiriau dillad mawr yn cael eu cynnal lle 'dach chi'n llenwi sach ac wedyn yn ei bwyso fo cyn talu. Mae bob math o apps dillad ail-law hefyd sydd yn ei gwneud hi'n hawdd iawn i chi brynu a gwerthu dillad. Dwi ddim yn cofio'r tro diwetha' nes i brynu dilledyn newydd!

Disgrifiad o’r llun,

Leisa yn ymweld â Beics Dyfi

Mae'n grêt gweld cynghorwyr yn cynnal dyddiau ailgylchu dillad ysgol hefyd - mae pob dim mor ddrud y dyddiau 'ma ac yn costio i'r blaned hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cael egni solar hefyd yn bwysig yn y frwydr amgylcheddol.

Mae bywyd mor brysur yn y coleg dyddia yma a mae'n anodd cael y cyfle i feddwl am be fedrwn ni neud dros y blaned a sut fedrwn ni fynd ati i argyhoeddi gwleidyddion ei bod hi'n argyfwng gwirioneddol arnom ni.

Disgrifiad o’r llun,

CAT Sally Carr a Leisa

Dyna pam roedd hi mor braf cael gweithio ar y rhaglen radio yma a chael sgyrsiau gyda gwahanol bobol am yr holl bethau cyffrous a blaengar sy'n digwydd ar hyd a lled Cymru a fydd, gobeithio, yn mynd peth ffordd at liniaru effeithiau newid hinsawdd. Nes i hyd yn oed reidio beic - a ti'n gwbod faint o drafferth dwi'n cael efo hynny!

Disgrifiad o’r llun,

Liam Ricard a Leisa

Dwi'n trio peidio digalonni a chofio am yr holl waith da sy'n digwydd - a dwi'n gobeithio y bydd clywed am hynny yn codi dy galon di hefyd.

Cariad mawr,

Leisa x