Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-0 Aldershot

  • Cyhoeddwyd
James Jones a sgoriodd yr ail gôl i'r Dreigiau
Disgrifiad o’r llun,

James Jones a sgoriodd yr ail gôl i'r Dreigiau

Roedd yna fuddugoliaeth arall i'r Dreigiau ddydd Sadwrn a hynny wedi iddyn nhw drechu Aldershot yn y Gynghrair Genedlaethol.

Roedd Wrecsam yn chwarae gyda hyder tîm sydd yn ennill gartref a chefnogaeth o dros ddeg mil o gefnogwyr.

Ar ôl 28 munud fe rwydodd Paul Mullin gôl gampus - gan wibio heibio'r amddiffyn ac yna codi'r bêl yn grefftus dros y gôl geidwad.

Ymhen deg munud roedd na gôl arall i Wrecsam - ergyd Mullin yn cael ei throi i'r rhwyd gan James Jones.

Roedd yna sawl cyfle da i fynd ymhellach ar y blaen.

Roedd Aldershot yn barod iawn i ymosod yn sydyn ond doedd na'r un gôl i'r ymwelwyr.

Gan fod Notts County wedi cael gêm gyfartal yn erbyn Yeovil fe ddychwelodd Wrecsam i frig y Gynghrair Genedlaethol.