Cwpan y Byd: FIFA'n 'gyfrifol' am 'drasiedïau' hawliau Qatar

  • Cyhoeddwyd
Mae llywodraeth Qatar yn dweud bod camau wedi eu cymryd i wella safonau i weithwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llywodraeth Qatar yn dweud bod camau wedi eu cymryd i wella safonau i weithwyr

Mae mudiad hawliau dynol yn dweud bod FIFA yn "gyfrifol" am "drasiedïau" yn Qatar, gan gwestiynu dyfodol y corff fel rheoleiddiwr pêl-droed rhyngwladol.

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd cyfarwyddwr mudiad Fair Square, Nick McGeehan, fod angen "ailystyried yn radical" y ffordd y mae pêl-droed yn cael ei llywodraethu, gan alw ar "bobl mewn llefydd fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru i fynnu gwell i'r gêm".

Gyda Chwpan y Byd yn dechrau ddydd Sul, mae cwestiynau eisoes wedi eu codi am ddyfarnu'r gystadleuaeth i'r wladwriaeth ddadleuol, gyda rhai sylwebwyr yn codi pryderon am gamweddau hawliau dynol honedig, amodau gweithio gwael i weithwyr mudol a chyfyngu ar ryddid unigolion yno.

Yn ôl FIFA mae eu safbwynt ar hawliau dynol a chynwysoldeb yn "ddiamwys", ac maen nhw'n dweud eu bod wedi "gwthio i gyflwyno rheolau newydd ym maes cyflogaeth sy'n berthnasol i'r holl gwmnïau a phrosiectau ar draws y wlad ac er budd yr holl weithwyr yn Qatar".

Ni wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ymateb yn uniongyrchol i sylwadau Mr McGeehan ond fe bwysleision nhw eu bod "am ddefnyddio llwyfan Cwpan y Byd FIFA 2022 i ledu'r neges y dylai pêl-droed fod i bawb, ymhob man".

'Roedd FIFA'n gwybod'

Ond yn ôl Mr McGeehan, oedd yn uwch-ymchwilydd i fudiad Human Rights Watch am bum mlynedd ac sy'n ymchwilydd a llefarydd dros hawliau gweithwyr mudol, fe allai FIFA fod wedi gwneud mwy i warchod hawliau gweithwyr a gwthio am newidiadau yn Qatar.

Mae'n honni bod "miloedd" o weithwyr mudol wedi marw yn Qatar dros y degawd diwethaf.

"Fe ddylen ni gael ein harswydo gan y ffordd y mae gweithwyr mudol wedi cael eu trin, a'r ymateb i farwolaethau," dywedodd wrth BBC Cymru.

"Y prif gonsyrn ydy eu bod wedi codi'r gystadleuaeth ar draul gweithlu gafodd ei gam-drin a'i ecsploetio, ac mae hynny wedi creu niwed aruthrol o ran colli bywydau a bywoliaeth."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Qatar wedi gwario biliynau ar stadiymau Cwpan y Byd, ond ar ba gost i weithwyr mudol?

"Mae 'na lawer o broblemau eraill o ran hawliau dynol yn Qatar, gan gynnwys LGBTQ+ a hawliau merched," ychwanegodd.

"Mae gan y wlad gefndir o ran hawliau dynol sy'n codi problemau mawr. Dydy Cwpan y Byd ddim i'w weld wedi gweddnewid y sefyllfa ryw lawer o gwbl, ac mae'n cael ei ddefnyddio i gynnal hygrededd llywodraeth sydd ddim, debyg iawn, yn haeddu hynny.

"Roedd pawb yn gwybod am y problemau yma cyn cynnig y gystadleuaeth [i Qatar]. Roedd FIFA'n gwybod amdanyn nhw. Roedd FIFA'n gwybod beth oedd angen ei wneud a wnaethon nhw ddim gwthio am hynny.

"Mae'r trasiedïau sydd wedi dilyn wedi digwydd oherwydd y methiannau hynny gan FIFA o'r cychwyn cyntaf."

'Rhaid i CBDC godi llais'

Ychwanegodd Mr McGeehan: "Dwi yn meddwl y tu hwnt i Qatar, gan y bydd y sylw'n symud oddi ar Qatar, bydd angen i ni edrych ar y ffordd y mae pêl-droed yn cael ei llywodraethu ac ai FIFA ydy'r sefydliad gorau i wneud hynny?

"Ac mae angen pobl mewn llefydd fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru i godi llais a mynnu gwell o'r gêm.

"Mae angen i ni edrych o'r newydd ar y ffordd 'dan ni'n llywodraethu pêl-droed oherwydd mae'n hollbwysig i hanfod cymunedau a gwledydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Qatar wedi derbyn beirniadaeth helaeth am driniaeth gweithwyr mudol cyn Cwpan y Byd

Mewn datganiad diweddar fe ddywedodd Llywodraeth Qatar fod camau wedi'u cymryd mewn blynyddoedd diweddar i wella safonau byw a gwaith gweithwyr o dramor.

Gan gydnabod bod diwygio'n waith tymor hir, dywedodd Fahad al-Mana, cynrychiolydd y wasg Qatar i'r DU "nad ydy Qatar erioed wedi peidio â chydnabod bod gwaith i'w wneud ar y farchnad lafur, ond rydym yn disgwyl i'r gohebu adlewyrchu'r ffeithiau fel ag y maen nhw".

"Wrth fwrw 'mlaen, mae Qatar yn benderfynol o ddal i wella'r trefniadau ym myd gwaith, a hynny'n agored gydag addewid i gydweithio."

Ffynhonnell y llun, JOHN SIBLEY
Disgrifiad o’r llun,

Gianni Infantino ydy llywydd y corff sy'n rheoli pêl-droed, FIFA

Fe ddywedodd FIFA eu bod am y tro cyntaf yn "adolygu'r broses o ran gwarchod gweithwyr fu'n rhan o Gwpan y Byd Qatar 2022 yn unol â chyfrifoldebau FIFA mewn perthynas ag egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a hawliau byd busnes.

"Pan fydd cwmnïau sy'n gweithio i Gwpan y Byd FIFA yn mynd yn groes i'w cyfrifoldebau, bydd Uwch-bwyllgor FIFA a Qatar yn gweithio i sicrhau bod 'na wneud yn iawn am y drwg, gan amlaf gan y cwmni oedd yn cyflogi'r gweithiwr dan sylw," meddai llefarydd.

"Fel rhan o ymdrech yr uwch-bwyllgor i ad-dalu ffioedd recriwtio, er enghraifft, mae gweithwyr wedi derbyn taliadau gwerth cyfanswm o $22.6m hyd at Ragfyr 2021, gydag addewid gan gontractwyr i dalu $5.7m yn rhagor."

Ffynhonnell y llun, Adam Davy

Maen nhw'n hawlio, ers i'r gwaith adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd ddechrau yn 2014, bod gan yr uwch-bwyllgor gofnod o dair marwolaeth yn gysylltiedig â gweithio ar safleoedd Cwpan y Byd, a 37 o farwolaethau ymhlith gweithwyr sydd ddim yn gysylltiedig â'r gwaith hwnnw.

Maen nhw'n ychwanegu bod "Qatar fel gwlad sy'n cynnal y gystadleuaeth yn hollol ymwybodol o'u cyfrifoldeb i gydymffurfio â disgwyliadau FIFA ym maes hawliau dynol, cydraddoldeb a pheidio â dilyn rhagfarn".

"Mae Qatar yn benderfynol o sicrhau y bydd modd i bawb fwynhau'r twrnament mewn amgylchiadau diogel a chroesawgar, gan godi pontydd o ran dealltwriaeth ddiwylliannol a chreu profiad cynhwysol i bawb sy'n bresennol, ac yn cymryd rhan, gan gynnwys aelodau o'r gymuned LHDT+."