'Nid cystadleuaeth yw ymateb i broblemau Qatar' - Mooney

  • Cyhoeddwyd
Noel MooneyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid "pasiant prydferthwch" yw'r ymateb i bryderon hawliau dynol Qatar, yn ôl Noel Mooney

Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud nad cystadleuaeth yw ymateb i bryderon am hawliau dynol yn Qatar.

Daw ar ôl i dîm pêl-droed Awstralia gyhoeddi fideo yn beirniadu record hawliau dynol a hawliau pobl LHDTC+ yn y wlad cyn Cwpan y Byd.

Bydd tîm Denmarc yn gwisgo crysau symbolaidd i wrthdystio yn erbyn agweddau tuag at hawliau dynol yno.

Wrth gael ei holi a allen ni ddisgwyl gwrthdystiad tebyg gan Gymru, dywedodd Noel Mooney nad "pasiant prydferthwch" yw hi, ac nad yw'n ddoeth cymharu beth mae pob person yn ei wneud.

Dywedodd ei bod hi'n bwysig defnyddio'r llwyfan sydd gan Gymru yng Nghwpan y Byd i geisio gwneud y byd yn lle gwell, nid dim ond beirniadu.

"I ni ry'n ni am fod yn rhan o grŵp Ewropeaidd ehangach sy'n trafod y pwnc", meddai Mr Mooney.

"Ry'n ni hefyd wedi trafod ein gwerthoedd gyda'r prif weinidog a Llywodraeth Cymru i sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth ble ry'n ni'n sefyll ac ry'n ni hefyd wedi bod yn trafod gyda phobl Qatar ynglŷn â gwelliannau posib yno.

"Dydw i ddim chwaith yn meddwl taw pasiant prydferthwch yw hi o ran beth mae pawb yn ei wneud.

"Dydw i ddim yn hoff o gymharu be' mae pob person yn ei wneud - ffolineb yw hynny.

"Mae gyda ni gystadleuaeth i baratoi ar ei chyfer ac ry'n ni'n hapus ein bod ni'n gwneud cynnydd yn ein trafodaethau fel rhan o UEFA.

"Gawn ni weld a ddaw'r newidiadau ry'n ni'n gobeithio amdanyn nhw i'r fei."

Disgrifiad,

Pam fod Cwpan y Byd Qatar 2022 mor ddadleuol?

Mewn cyfweliad ar raglen Newyddion S4C fis Medi fe ddywedodd Amnest Rhyngwladol eu bod yn teimlo fod Cymru wedi mynd yn dawel ar bwnc hawliau dynol yn Qatar a bod anfodlonrwydd gwledydd eraill yn fwy amlwg.

Cynnal trafodaeth sy'n bwysig yn ôl Dr Carol Bell, sydd ar fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac sydd â phrofiad helaeth o weithio yn y dwyrain canol.

"Dwi'n credu mai cadw ein safonau'n hunain a chadw i drafod gyda swyddogion Qatar yw'r ffordd 'mlaen, a chadw trafod gyda swyddogion FIFA hefyd wrth gwrs.

"Nhw sydd yn trefnu'r cwbl," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Trafod yw'r ffordd ymlaen yn ôl Dr Carol Bell, sy'n aelod o fwrdd CBDC ac sydd wedi byw yn y dwyrain canol

"Ond wrth fynd i'r wlad, a chadw i drafod, a dangos y ffordd Gymraeg o wneud pethe', 'na fel fyddwn ni'n ennill ein ffordd - nid trwy wneud pethe' symbolaidd fel crysau gwahanol neu roi fideos allan gan y chwaraewyr.

"Nid cystadleuaeth yw hon i fod yn fwy llafar ar y testun ond bydden i'n croesawu'r gwledydd i gyd i weithio gyda'i gilydd i helpu Qatar i wneud mwy."

'Gwella yn brosiect hir dymor'

Mae cefnogwyr sy'n mynd i Qatar yn dadlau ei bod hi'n gyfle i rannu eu gwerthoedd.

Bydd y parchedig Aled Edwards yno fel rhan o'r Wal Goch.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwella a newid arferion cymdeithas yn "brosiect hir dymor" yn ôl y parchedig Aled Edwards

"Bydden i'n gofyn i'r awdurdodau pêl-droed feddwl o ddifri' lle maen nhw'n mynd a pha lefydd sy'n cael eu gwobrwyo gyda'r cystadlaethau yma oherwydd arnyn nhw mae'r cyfrifoldeb i ofalu fod hynny'n iawn," meddai.

"Os nad y'ch chi'n siarad â chyfundrefnau sydd angen eu herio... go brin y gallwch chi eu newid nhw a dyna'r cwestiwn - sut allwn ni newid y gymdeithas yna er gwell fel bod hi'n trin pobl yn well ac yn bod yn llawer mwy cynhwysol nag y mae hi ar hyn o bryd? Mae hynna'n brosiect hir dymor."

Mae arweinydd y Blaid Lafur ym Mhrydain, Syr Keir Starmer, wedi dweud na fydd ef nag unrhyw un o'i gyd-weithwyr yn mynd i Qatar oherwydd pryderon am hawliau dynol yno.

Er hynny, mae ei gyd-weithwyr o lywodraeth Llafur Cymru yn mynd i Qatar.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey, ei bod hi'n "anghywir" i Mark Drakeford fynd.

'Mater gwahanol i Gymru'

Disgrifiad o’r llun,

Gan fod Mark Drakeford yn "bennaeth llywodraeth" fe ddylai fynd i Qatar yn ôl Lee Waters

Yn ôl Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, Lee Waters, mae'n "fater gwahanol" os mai chi yw llywodraeth un o'r gwledydd fydd yno.

"Ni'n deall penderfyniad mae Keir Starmer wedi gwneud achos mae hwn yn bwnc anodd ond ni mewn sefyllfa wahanol," dywedodd.

"Mae Mark Drakeford yn bennaeth llywodraeth. Os bydde Keir Starmer yn bennaeth llywodraeth bydde' fe'n meddwl yn wahanol efallai, ond penderfyniad ni yw cefnogi tîm Cymru sy'n mynd i Gwpan y Byd am y tro cynta' ers blynyddoedd.

"Bydde' fe'n dishgwl yn od iawn os byddai'n prif weinidog ni ddim yn cefnogi'n tîm ni."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Lee Waters, Noel Mooney a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, yn lansio strategaeth gynaliadwyedd

Fe wnaeth Noel Mooney a Lee Waters eu sylwadau wrth i'r gymdeithas bêl-droed lansio strategaeth amgylcheddol.

Mae 'Cymru, llesiant a'r byd' yn brosiect cynaliadwyedd sy'n cynnwys camau i ofalu am yr amgylchedd o fewn y gamp.

Bydd yn cynnwys cynlluniau cyfnewid offer a chit pêl-droed, gosod pwyntiau gwefru ceir trydan mewn clybiau ac annog plant i blannu coeden am ddim ar draws y wlad.