Blaenau Ffestiniog: Apêl ar ôl i ddyn gael anafiadau difrifol

  • Cyhoeddwyd
Rhan o'r B4391 ger Blaenau FfestiniogFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4391 ger Blaenau Ffestiniog

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i ddyn gael anafiadau sy'n peryglu ei fywyd mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd.

Roedd dau gerbyd mewn gwrthdrawiad ar y B4391 ym Mlaenau Ffestiniog tua 13:00 ddydd Sadwrn.

Cafodd un dyn ei gludo i'r ysbyty yn Stoke mewn ambiwlans awyr gydag anafiadau sy'n peryglu ei fywyd.

Bu'r ffordd ar gau wedi'r digwyddiad, ond cafodd ei hail-agor yn fuan wedi 19:00.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal ac a welodd unrhyw beth, neu sydd â lluniau dash cam o'r digwyddiad i gysylltu â nhw drwy eu gwefan neu drwy alw 101, gan nodi cyfeirnod B175068.