Cyfoeth Naturiol Cymru yn 'wastraffus' a 'rhagrithiol'
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n gyfrifol am amddiffyn yr amgylchedd yng Nghymru wedi'i gyhuddo o fod yn "wastraffus" a "rhagrithiol" oherwydd ei wariant ar gerbydau petrol a disel.
Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan Gynghrair y Trethdalwyr a'r Gynghrair Cefn Gwlad wedi dangos fod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwario dros £1.6m ar brynu a llogi cerbydau dros y tair blynedd ddiwethaf.
Er bod rhai o'r cerbydau yn rai trydan, petrol neu ddisel oedd y tanwydd yr oedd y mwyafrif yn ei ddefnyddio.
Yn ôl CNC, maen nhw'n gweithio'n galed i leihau allyriadau ac maen nhw angen cerbydau sy'n addas i symud mewn tir anodd ac ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol.
Dros £600,000 ar betrol a disel
Mae'r ceisiadau rhyddid gwybodaeth, a gafodd eu rhannu â rhaglen Newyddion S4C yn dangos y gwariant canlynol gan CNC:
2019/20: £596,845.19 ar brynu cerbydau, £187,153.63 ar eu llogi;
2020/21: £601,599.68 ar brynu cerbydau, £179,756.79 ar eu llogi;
2021/22: £445,809.20 ar brynu cerbydau, £139,285.37 ar eu llogi.
Cafodd £626,656 yn rhagor ei wario ar betrol a disel ar gyfer ceir personol staff dros yr un cyfnod o dair blynedd.
Ffurfiwyd Cyfoeth Naturiol Cymru - sy'n gweithredu ar ran y llywodraeth ond o hyd braich - yn 2013, gan ymgymryd â dyletswyddau y Cyngor Cefn Gwlad, y Comisiwn Coedwigaeth ac Asiantaeth yr Amgylchedd, yn ogystal â pheth o waith y llywodraeth ei hun.
Dyma'r cwango mwyaf yng Nghymru - mae'n cyflogi 1,900 o weithwyr gyda chyllideb flynyddol o £180m.
CNC yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd ac adnoddau naturiol.
Yn y gorffennol, mae wedi galw ar gyrff ac unigolion "i newid eu hymddygiad er mwyn lleihau nwyon tŷ gwydr".
Yn ôl ei wefan, mae'r corff yn "anelu at gyflawni ein gwaith... mewn ffordd ragorol ac at hyrwyddo ein dysgu ar leihau allyriadau ledled Cymru".
Wrth ymateb i'r wybodaeth ryddhawyd dan y cais rhyddid gwybodaeth, dywedodd Dr Mike Jones ar ran Cynghrair y Trethdalwyr: "Mae trethdalwyr wedi blino ar ragrith cyrff cyhoeddus.
"Dyma gwango arall nid yn unig yn methu â chyflawni ei swyddogaeth, ond yn niweidio achos mae i fod yn hyrwyddo.
"Mae'n amser i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r corff gwastraffus yma."
Dywedodd llefarydd y Gynghrair Cefn Gwlad, Mo Metcalf-Fisher, wrth raglen Newyddion S4C: "Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn prysur ddatblygu'n gwango chwyddedig, sydd wedi colli cyswllt gyda Chymru wledig a'r cymunedau mae i fod yn eu gwasanaethu."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran CNC: "Rydyn ni wedi ymrwymo i weithredu ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac i leihau allyriadau ein cerbydau - o ran teithio llai o filltiroedd a defnyddio opsiynau mwy gwyrdd.
"Mae ffyrdd newydd o weithio yn lleihau nifer y milltiroedd busnes sydd wedi eu teithio, ac rydym ni wedi gweld 30% yn llai o allyriadau o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig.
"Ar hyn o bryd, mae 7% o'n cerbydau yn rhai trydan. Rydyn ni wedi archebu rhagor o gerbydau trydan, ond mae problemau gyda'r gadwyn gyflenwi yn effeithio ar ddosbarthiad.
"Mae ein gwaith yn golygu ymateb i lifogydd ac i ddigwyddiadau amgylcheddol drwy Gymru, ac mae meysydd allweddol eraill ein gwaith yn cynnwys cadw a chynnal cronfeydd dŵr, rheoli coedwigoedd, monitro amgylcheddol a rhwystro ac ymateb i droseddau bywyd gwyllt.
"Er mwyn gwneud hynny, rydyn ni angen cerbydau addas i'r gwaith. Tra'n bod ni wedi ymrwymo i symud at gerbydau trydan, dyw technoleg ddim eto wedi datblygu digon ar gyfer faniau mawr, 4x4 a pheth o'n peiriannau.
"Fel mesur dros dro, rydym ni'n symud o ddefnyddio disel i danwydd HVO (olew planhigion wedi ei drin) ar gyfer y cerbydau yna. Mae hyn yn lleihau allyriadau CO2 o hyd at 90%, ac yn 100% adnewyddadwy."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod hyn yn fater i Gyfoeth Naturiol Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2018