Ffilm The Wonder a stori drist y ferch oedd yn honni 'byw heb fwyta'

  • Cyhoeddwyd
Florence Pugh yn actio yn The WonderFfynhonnell y llun, Aidan Monaghan/Netflix
Disgrifiad o’r llun,

Florence Pugh fel Lib Wright, y nyrs yn y ffilm sy'n dod i Iwerddon i arsylwi'r ferch fach Anna sy'n honni ei bod yn byw heb fwyta - sy'n debyg i stori go iawn Sarah Jacob o Lanfihangel-ar-arth

Mae ffilm newydd The Wonder , dolen allanolar Netflix, sy'n adrodd hanes merch sy'n honni ei bod wedi byw am fisoedd heb fwyta, wedi ei gosod yn Iwerddon: ond stori go iawn Cymraes o Sir Gaerfyrddin yw un o'r straeon sydd wedi ysbrydoli'r ffilm.

Sarah Jacob o Lanfihangel-ar-arth oedd efallai'r enwocaf o 'ferched ymprydiol' Oes Fictoria.

Rhoddwyd yr enw 'fasting girls' i ffenomenon yn y 19eg Ganrif lle roedd merched ifanc yn honni eu bod yn gallu byw heb fwyd.

Yn aml roedd sêl grefyddol a honiadau o allu goruwchnaturiol - ac awch am enwogrwydd meddai rhai - wrth wraidd yr ymddygiad: erbyn heddiw cydnabyddir bod anorecsia ac efallai anhwylderau meddwl eraill yn debyg o fod yn ffactor hefyd.

Mae awdur y nofel sy'n sail i'r ffilm, Emma Donaghue, wedi sôn am achos enwog Sarah Jacob fel un o'r enghreifftiau wnaeth ysbrydoli ei stori.

'Gwyrth' y ferch oedd yn ymprydio

Mae Emma Baines o Amgueddfa Arberth wedi ysgrifennu am hanes trist Sarah Jacob a fu farw yn 12 oed ar gyfer prosiect Menywod Gorllewin Cymru, dolen allanol:

"Ganed Sarah Jacob ar y 12fed o Fai 1857 yn Llanfihangel-ar-arth, ger Pencader, Sir Gaerfyrddin. Yn un o saith o blant o deulu o amaethwyr, digon cyffredin i bob golwg oedd sefyllfa Sarah yn yr ardal yr adeg honno.

"Fodd bynnag, yn 1867 aeth yn sâl a dechreuodd gael trawiadau ar y galon a achosodd iddi fod yn 'gaeth i'w gwely'. Yn ystod y cyfnod hwn ychydig iawn yr oedd yn ei fwyta ac erbyn mis Hydref y flwyddyn honno, roedd yn ymddangos nad oedd hi'n derbyn unrhyw fwyd na diod o gwbl.

Ffynhonnell y llun, Twitter/Y Bywgraffiadur Cymreig
Disgrifiad o’r llun,

Darluniau o'r cyfnod yn dangos Sarah yn ei gwely a'r fferm lle roedd hi'n byw, Llethr-neuadd, lle daeth ymwelwyr i weld y ferch fach 'wyrthiol'

"Yn ôl adroddiadau, roedd hi dan ofal meddyg lleol oedd, ynghyd â'i rhieni, yn amharod i anfon Sarah i'r ysbyty. Disgrifiwyd hi fel 'plentyn iach iawn, ac yn edrych yn rhyfeddol o ddeniadol, gyda llygaid mawr tywyll, gwallt tywyll, bochau pinc llawn, a gwefusau mor goch â fermiliwn'.

"Roedd hyn er gwaethaf ei bod yn ymddangos fel pe bai'n goroesi heb fwyd am ddwy flynedd.

"Wrth i'r newyddion ledaenu am ryfeddod y 'ferch oedd yn ymprydio', daeth ymwelwyr i weld y wyrth."

Creu 'fetish' o ferch ifanc newynog?

Mae erthygl Emma Baines yn dyfynnu o adroddiadau'r cyfnod:

"Roedd Sarah wedi'i 'gwisgo'n bert gyda thlysau ac addurniadau, ac o gwmpas ei gwar roedd mantell ffwr a thorch am newid, a llyfrau a blodau ar wasgar ar draws cwrlid y gwely. Roedd yn siarad yn synhwyrol, yn darllen yn frwd â llais melodaidd, ac yn cyfansoddi barddoniaeth â chwaeth ryfeddol, a adroddai i'r ymwelwyr oedd yn llawn rhyfeddod ac edmygedd o wrando ar y rhieni bod y ferch - oedd yn dal yn ferch dlws, llond ei chroen, heb fwyta bwyd ers dwy flynedd, a hyd yn oed yn mynd i ffitiau hysterig pryd bynnag y soniwyd am fwyd yn ei gŵydd. Ac eto, roedd ei llygaid yn fywiog ac yn ddisglair, ei phwls yn iach ac yn rheolaidd, ei gwefusau mor goch ag erioed, ei bochau o liw pinc iach fyddai'n ennyn edmygedd menywod oedd yn dyheu am wyneb pert perffaith, ac roedd ei gwallt - oedd yn drwchus ac wedi'i addurno â rhubanau a blodau, yn rhoi gwedd dangnefeddus i'r pen bach yn gorwedd ar y gobennydd gwyn, oedd yn ennyn cydymdeimlad ei hymwelwyr…'.

"Efallai bod yr addurno a'r dyrchafu (fetishisation) hwn o ferch ifanc, newynog, yn enghraifft gynnar o ddiwylliant sydd wedi parhau drwy'r canrifoedd, gydag adroddiadau o'r cyfnod o ddiddordeb treiddiol ac ymchwilio dwys.

"Awgrymwyd hefyd bod rhieni Sarah wedi elwa o'i salwch, gydag ymwelwyr yn gadael anrhegion o arian a llyfrau wrth erchwyn ei gwely.

Ffynhonnell y llun, puraunewydd.llyfrgell.cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cofnod ym mhapur newydd Y Dydd, 1868, yn dangos sut roedd nifer wedi eu twyllo yn achos Sarah Jacob

"Roedd gwŷr crefyddol a meddygol wedi cadw golwg arni am fisoedd lawer cyn i grŵp o bedair nyrs o Ysbyty Guys yn Llundain gael eu hanfon i fonitro ei hymddygiad mewn sifftiau o 24 awr ar y tro."

Ond dan oruchwyliaeth lem y nyrsys, dirywiodd y ferch ymhellach ac mae'r erthygl gan Emma Baines yn dyfynnu o'r cofnodion ar y pryd amdani yn nyddiau olaf ei bywyd:

"O'r 9fed o Ragfyr 1869, roeddent yn dyst i'r modd yr oedd 'y plentyn yn dihoeni a gwanychu fwy fwy bob dydd, ac eto nid oedd briwsionyn o fwyd, na llymaid o ddŵr wedi mynd heibio'i gwefusau. Parhaodd y gwylwyr yn ddiedifar yn ei gwylio, a daeth dynion meddygol i mewn ac allan o ystafell wely'r ferch oedd yn marw, a siarad yn bwyllog ac yn ddadansoddol am 'y newid yn ei gwedd,' ac am y 'pwls cyflymach,' ac am yr 'wyneb gwridog,' ac am 'ymddangosiad rhyfedd' llygaid y greadures fach'.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Roedd diddordeb drwy Brydain yn achos trist Sarah Jacob oedd ond yn 12 oed pan fu farw

"Mae'n amhosibl dychmygu sut na pham y byddai rhieni, pentrefwyr a gweithwyr proffesiynol meddygol yn gallu gwylio Sarah yn araf lwgu i farwolaeth er mwyn cynnal y rhith o 'ferch yn ymprydio', ac eto ar yr 17eg o Ragfyr 1869, ar ôl wyth diwrnod heb fwyd na dŵr, bu farw Sarah Jacobs."

Dangosodd post mortem bod Sarah wedi cael maeth cyn i'r nyrsys gyrraedd, a'r si oedd ei bod wedi cael bwyd gan ei chwaer pan oedden nhw yn cusanu.

Cafwyd ei rhieni, Evan a Sarah, yn euog o ddynladdiad ym Mrawdlys Caerfyrddin, ond cafodd yr achos yn erbyn y meddygon ei wrthod.

Mae Sarah Jacob wedi'i chladdu ym mynwent Eglwys Mihangel Sant ger Pencader, Sir Gaerfyrddin.

Daw ffynonellau erthygl Emma i brosiect Merched Gorllewin Cymru o wefan y Wellcome Collection, dolen allanol, lle mae modd gweld copi o lyfr o 1871 am hanes Sarah, a hefyd o wefan Papurau Newydd y Llyfrgell Genedlaethol, dolen allanol; yno mae canfod llu o adroddiadau o'r cyfnod a llawer o drafod a dadlau yn y wasg Gymreig am y farwolaeth drist, cyfrifoldeb y rheini a'r meddygon ac ofergoeliaeth y rhai oedd yn credu'r stori a arweiniodd yn y pen-draw at farwolaeth drasig merch ifanc.

Mae'r nofel Sarah Arall gan Aled Islwyn a'r ddrama Sal gan Gwenlyn Parry wedi eu dylanwadu gan stori Sarah Jacob hefyd.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig