Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Lions 33-25 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
DreigiauFfynhonnell y llun, Rex Features

Cafodd y Dreigiau eu trechu gan y Lions ddydd Sul yng ngêm gyntaf eu taith i Dde Affrica.

Bu'n rhaid disgwyl dros hanner awr am y cais cyntaf, ac i'r Lions ddaeth hwnnw trwy Ruhan Straeuli.

Roedd hi'n 19-6 i'r tîm cartref ar yr egwyl diolch i gicio cywir Jordan Hendrikse, ond llwyddodd y Dreigiau i daro 'nôl ar ddechrau'r ail hanner gyda chais gan Sio Tomkinson.

Fe wnaeth y tîm o Dde Affrica ymestyn eu mantais gyda chais gan Hendrikse, ond unwaith eto daeth y Cymry 'nôl wrth i James Benjamin groesi.

Llwyddodd y Lions i groesi am eu trydydd cais trwy JP Smith, ac er i Che Hope sgorio trydydd cais i'r Dreigiau yn yr eiliadau olaf, roedd y tîm cartref eisoes wedi gwneud digon i selio'r fuddugoliaeth.

Dyma gêm gyntaf y Dreigiau ar eu taith yn Ne Affrica, cyn iddyn nhw'n herio'r Stormers ddydd Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig