Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad yng Nglannau Dyfrdwy

  • Cyhoeddwyd
TexacoFfynhonnell y llun, Geograph | Jeff Buck
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger gorsaf betrol Texaco ar Ffordd Sealand yng Nglannau Dyfrdwy

Mae plismyn yn apelio am dystion wedi i ddyn gael ei ladd gan gar tra'n cerdded yng Nglannau Dyfrdwy yn ystod oriau mân fore Sul.

Roedd Warren Hooper, 50, yn dod o stad Blacon ar gyrion Caer.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger garej Texaco ar Ffordd Sealand, yn Sir y Fflint yn agos at y ffin rhwng Cymru a Lloegr am oddeutu 03:00 fore Sul.

Roedd y ffordd ar gau tan 13:15 ddydd Sul tra bod Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio.

Mae plismyn yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig