Enwi dyn fu farw ar ôl cael ei sathru gan fuwch

  • Cyhoeddwyd
Huw EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Huw Evans yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

Mae'r heddlu wedi rhyddhau enw dyn 75 oed a fu farw ar ôl cael ei sathru gan fuwch oedd wedi dianc o fart yn Sir Gâr.

Roedd Huw Evans yn 75 oed ac o Hendy-gwyn ar Daf.

Cafodd ei sathru wrth gerdded ar Heol y Gogledd yn Hendy-gwyn am tua 10:15 ddydd Sadwrn, 19 Tachwedd, ar ôl i'r anifail ddianc o fart y dref.

Cafodd Mr Evans ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gan ambiwlans awyr ond bu farw ar ddydd Gwener, 25 Tachwedd.

Mewn teyrnged dywedodd ei deulu: "Roedd Huw yn dad, dad-cu, brawd, ewythr a ffrind i lawer.

"Byddwn am ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth tra roedd Huw yn yr ysbyty ac ers ei farwolaeth. Rydym yn gwybod faint o golled fydd ar ei ôl."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y fuwch ddianc o farchnad Hendy-gwyn

Mae Heddlu Dyfed-Powys a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad.

Cafodd y fuwch ei difa ar ôl y digwyddiad gan ei bod yn beryglus ac nad oedd modd ei rheoli.

Pynciau cysylltiedig