Dyn wedi marw o'i anafiadau wedi i fuwch ymosod arno

  • Cyhoeddwyd
Hendy-gwynFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddihangodd y fuwch o farchnad Hendy-gwyn fore Sadwrn 19 Tachwedd

Mae dyn a gafodd anafiadau difrifol wedi i fuwch ymosod arno a'i sathru wedi marw.

Cafodd y dyn, oedd yn cerdded ar Heol y Gogledd, Hendy-gwyn yn Sir Gâr, ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn y digwyddiad toc wedi 10:15 ddydd Sadwrn 19 Tachwedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) ddydd Mawrth: "Yn anffodus, mae'r dioddefwr nawr wedi marw.

"Mae'r HSE yn ymchwilio i'r amgylchiadau gyda Heddlu Dyfed-Powys."

Dywedodd yr heddlu adeg yr ymosodiad bod rhaid difa'r fuwch, gyda chydsyniad y perchennog, gan ei bod yn beryglus ac yn amhosib i'w rheoli.