Ymestyn gwaharddiad doctor wnaeth dwyllo'r GIG i gamblo

  • Cyhoeddwyd
Dr Aled Meirion Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Dr Aled Meirion Jones £800,000 tra'n gaeth i gamblo

Mae gwaharddiad doctor wnaeth dwyllo'r Gwasanaeth Iechyd o bron i £68,000 wedi ei ymestyn am bedwar mis arall.

Fe wnaeth Dr Aled Meirion Jones, o Gaerdydd, bledio'n euog i ddau gyhuddiad o dwyll yn Ionawr 2021.

Cafodd ddedfryd o 24 mis yn y carchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd, yn ogystal â gorchymyn i wneud 200 awr o waith di-dâl.

Fe gafodd ei wahardd o'r gofrestr feddygol am 12 mis yn Hydref 2021.

Fe dwyllodd Dr Jones y GIG drwy ddwyn sieciau arian a honni ei fod wedi gweithio pan nad oedd wedi, a benthyg arian gan ffrindiau ar yr un pryd.

Ar ôl cynnal gwrandawiad oedd yn adolygu'r dystiolaeth am adferiad Dr Jones, fe ddaeth tribiwnlys i gasgliad bod ei allu i weithio fel meddyg yn dal yn ddiffygiol gan ei fod wedi ei gael yn euog o dwyll.

Cytunodd y panel i ymestyn ei waharddiad am bedwar mis ychwanegol.

Mewn cyfweliad y llynedd, fe ddywedodd Dr Jones fod bod yn gaeth i gamblo yn "difetha bywydau" a'i fod wedi colli £800,000.

Pynciau cysylltiedig